Pan ysgrifennodd Edward Richard ei gân gyntaf i bont Rhydfendigaid (1760), roedd dadl ynghylch pwy ddylai fod yn gyfrifol am y gost o adeiladu’r bont a’i chadw a’i chynnal ar ôl hynny - ai’r Sir, neu’r plwyfi ar naill ochr i’r afon, (sef Caron a Gwnnws)? Yr afon oedd (ac mae’n dal i fod) y ffin rhwng y ddau bwyf,, gyda Charon ar yr ochr ddeheuol a Gwnnws ar yr ochr ogleddol.

Drwy gymorth cynrychiolwyr o deuluoedd bonedd Trwscoed, Nanteos a Mabws, pasiwyd yn y ‘Llysoedd Chwarter’ (Quarter Sessions) mai’r Sir fyddai’n gyfrifol yn hytrach na’r plwyfi. Fel canlyniad, mae Edward Richard, yn ei gân gyntaf, yn talu teyrnged i’r teuluoedd hyn. Hefyd mae’n annog rhyddeiliaid a tenantiaid yr ardal i wneud yr un peth a chydnabod eu dyled i’r uchelwyr am ddarostwng eu hunain i helpu’r werin-bobl.

1.





Am Bont Rhyd-fendigaid mae sôn mawr a synied,

Ar fyr cewch ei gweled mor dambed a’r dydd,

Fel castell gwyn amlwg, goreulan i’r amlwg,

Neu gadwyn i fwnwg afonydd.

8.

Mae eto le tirion, ei gofio fydd gyfion,

Yn llawn o gymdeithion hoff radlon a ffri,

Hir iechyd i’r achos, na welwyf mo’i wylnos,

Nac ёos Nanteos yn tewi.


2

Hi saif yn ei hunman, y Bont ar ddau bentan,

Yn hynod ei hunan, a llydan ei lli’,

Tro Banc Pen-y–bannau yn dal uwch y dolau,

A ffrydiau mewn tonnau’n mynd tani.


9.

Na weler ond hyny, ond hâf ar lan Teifi,

Na drain, na mieri, na drysni ar droed,

Na chafod na chwmwl yn blino ar ein meddwl,

Na sôn am aer trwsgwl i’r Trawsgoed.

3

Gwna’r penter’ mwyn serchog, tros fyth yn gyfoethog,

Wrth ddwyn yr ariannog yn llwythog i’r lle;

A phan elo’n athrist heb ddim yn eu ddwygist,

Hi helpa’r dyn didrist fyn’d adre’.


10.

Y credit a’r arian fy’n nafu Sion Ifan*,

Wrth yfed bob dafan yn gyfan o’i go’,

Pan drielio’r cyfeillgar ei geiniog yn gynnar,

‘Difeirwch diweddar daw iddo.

4.

Os digwydd ar brydiau, fod llif dros y dolau,

A gwragedd y pentre’n eu crysau’n rhoi cri,

Geill cyfaill heb gafan, ar dw’llwch fyn’d allan,

Heb gwrdd âg un dafan o Deifi.


11.

Y cyfaill caruaidd, a saer y maen mwynaidd,

Cais wella dy fuchedd o’r diwedd ŵr da;

Y dolur a’r dyli, o’th ledol a thlodi,

Yw’r cw’m’ni ddaw iti o ddiota.


5.

Bydd Dan yn ŵr cadarn a rhywiog i’r haiarn’

Gof arfog gywirfarn i’r dafarn pan dêl;

Ar gawsai lân gyson, o gerrig mwyn meinion,

Yn union o’r afon i’r efel.


12.

Gwna cwrw a’r tobacco, i Garon† hir guro,

Yn llydan a llidio a bloeddio’n ŵr blin,

Try allan yn drylliau, y cerrig a’r caerau,

A seiliau’n holl greigiau’n hyll gregin.

6.

Er gwneud hon yn ffyddlon, er mwyn y glân ddynion,

A rheiny’n gym’dogion da mwynion i mi,

Bydd Ned o’r Dre’ druan, ar fyrder mewn graian,

A llawer awff trwstan eiff trosti.


13.

Os cyll yr hen fachgen y ddiod o’i ddwyen,

Hoff liwgar mewn fflagen, a’r ddeilen o’i ddant,

Ni thal ei forthwylion un geiniog na’i gynion,

A’i ffyddlon ebillion a ballant.

7.

Gwyr Gwnnws a Charon, cydunwch fel dynion,

Cewch felly’n gyfeillion, wŷr dewrion a dwys,

A sefwch yn ffyddlon tra’ Pont dros yr afon,

A meibion o feibion i Fabwys.



O ddarllen yr ail gân, mae’n amlwg fod Edward Richard wedi cael ei siomi gan gynllun y bont, a’r ffordd y cafodd ei hadeiladu. Mae’n datgan ei ddig tuag at y pentref, yr adeiladwyr a, hefyd, ei hunan. Ar y llaw arall, mae’n amharod i fwrw yr un bai ar bobl Trawscoed, Nanteos a Mabws.

1

Er sŵn ofer ddynion anallu a’u penillion,

Yn camol cymdeithion a’r haelion wŷr hŷ,

‘Rwy beunydd yn clywed am Bont Rhyd-fendigaid,

Mor amled ochenaid a chanu.


7.

Mae Ned fel hen geubren, oer yw, heb yr awen,

Na synwyr yn gymmen i’w dalcen na dysg,

Gwell yn y gegin yw blawd y cardotyn,

Nac eisin oferddyn o fawrddysg.

2.

Pont grîn yn tîn grynu, pont dwr yn pentyrru,

Pont hâf, a phoen Teifi, pan lifo hi ar led;

Gwirionedd sy beunydd, a’r dŵr dros ei deurydd,

Gan gystudd o g’wilydd ei gweled


8.

Fe â’r gof yn ei gryfder heb ymswyn bob amser,

Gwellt yn y morter sy’n dyner yn dal,

Mae llwybr o gerrig yn ffordd ry fonheddig

I ŵr nad yw debig i Dubal.


1

Mae’n fingul, mae’n fongam, mae’n wargul, mae’n ŵyrgam,

Mae llwybr di-adlam anhylam yn hon,

Ni welwyd un ellyll, na bwbach mor erchyll,

Erioed yn traws sefyll tros afon.


9.

Sion Ifan y cloddiwr, hwyrfrydig hir fradwr,

I lawr â’r bolerwr adonwr i dân,

Ffwrdd feddwyn mewn cawell, aed ymaith fel parchell

Yr hen hwch, a chyfaill ei chafan.


4.

Ni chei di’n y bentre, na merch wen i eiste’,

Dan sôn am weu ‘sanau neu laesau am dy lin,

Na rhynion o’r crafa, yn lân am felina,

Ond llif yn dyfetha dy  fwthyn


10.

Fe ddarfu’r hen gwnwr rhwng Glanddyn a Glanddwr,

Morthwylion y mwynwr yn bowdwr y f’on,

Mae’r cwrw wrth y pared, ni welir un llymed,

Na drws yn agored i Garon


5.

Pob awen sy’n gwywo, pob dyn sy’n oer diwnio,

Pob cangen sy’ heb ffrwytho yn llwydo’n ei lle;

Ni welir ar fyrdro na glanddyn yn rhodio,

Na maen o’r Bont yno ar bentanau.


11.

Nid â’i yn y diwedd, i ‘mhyryd â mawredd,

Mi wn fod anrhydedd ein bonedd yn bur,

Ond teg i’r galluog ro’i law ar ŵyr taёog,

A brigog air enwog yr anwir.


6.

Os llif dros y dolau fydd rhyngot ti a chartre’,

Er bod melysderau dy  gaerau’n dy go’,

Yn lletty’r aderyn, le noeth, dan lwyn eithin,

Neu frigin coed eirin cei dario.


12.

Os Pont Rhyd-fendiged yw gwenwyn y gweinied,

Cyfiawnder, heb arbed, fo’n gweled y gwall;

Y tân fo’n myn’d trwyddi, a rhyw y foru,

Fo’n peri pentyrru Pont arall.

‡ Ned o’r Dre oedd Edward Richard ei hun.

* Sion Ifan o Ystrad – y saer maen a gododd y bont.

† Sion Caron y mwynwr, a gloddiodd y cerrig ar gyfer codi’r bont.

www.hanesybont.co.uk

Os am ragor o wybodaeth am Edward Richard, ewch i’r dudalen nesaf

 Yr Eos

Cyfeiriwyd yn aml at Edward Richard fel 'Yr Eos' ─ teyrnged iddo fel bardd. [Mae'r llun uchod o'r eos ar gael ar y dudalen we http://commons.wikimedia.org/wiki/File:NSRW_Nightingale.png

I darllen gwaith Edward Richard trowch at 'Yr Eos: sef gwaith awenyddol Mr. Edward Richards, I. Bugeilgerdd; II. Bugeilgerdd; III. Can y Bont; IV. Ateb i Gan y Bont; V. Emyn neu Hymn; VI. Marwnad Iorwerth Rhisiat' [sic]', Carmarthen, 1813 (copiau ar gael yn LlGC a Llyfrgell Prifysgol Caerdydd)

*

*

Tudalen 1

Dwy Gân

gan

Edward Richard

Bont Rhydfendigaid

i

Edward Richard

(Argraff arlunydd)

Cân y Bont : y gân  gyntaf (1760)

Ateb i  Gân y Bont :  yr ail gân (1762)

John Rees Jones

‘Sôn am y Bont’, Llandysul,1974

Pan adeiladwyd y bont dros afon Teifi yn Rhydfendigaid (yn 1760) cyfansoddodd Edward Richard ddwy gân iddi, ac yn ôl un o gymeriadau’r ardal :


. . . fe gafodd yr awen ei phlannu yn ddwfn yn near Pontrhydfendigaid yr adeg honno ac fe erys ei dylanwad yn gryf ar feirdd yr ardal hyd heddiw.

Nodiadau