Mae’r llun uchod yn dangos rhan o’r Elenydd, lle rhed y ffordd sy’n arwain o Ffair Rhos i Raeadr ar draws rhai copaon unig - ychydig i’r gogledd o Lynnoedd Teifi. Mae un o’r llynnoedd, sef Llyn Hir, i’w weld yn y cornel uchaf o’r llun.
Yn yr hanner cyntaf o’r ddeunawfed ganrif ar bymtheg a chyn hynny, dyma’r ffordd yr âi’r porthmyn â’u da a’u defaid i Henffordd a Llundain. Ar y chwith gyferbyn â’r tro-cam (yr S-bend) roedd yna unwaith Bedolfa brysur lle pedolwyd y da ar ddechrau eu siwrnai i wlad y Saeson [1]. Daeth amser y porthmyn i ben tua chan-mlynedd a hanner yn ôl yn dilyn gwelliant i’r prif ffyrdd a dyfodiad y rheilffordd i orllewin Cymru.
Dyma ddywed Anthony Griffiths am yr Elenydd yn un o’i lyfrau ffotographig gwych [2] :
Ehangder gwyllt . . . rhostir agored yn nannedd y gwynt gyda bryniau tonnog, cymoedd dyfnion, gorwelion eang ac unigedd sy’n llesol i’r enaid. Yn archaeolegol, hanesyddol a diwylliannol, mae’n fro sy’n llawn trysorau.
[1] W Jones-Edwards, Ar Lethrau Ffair Rhos, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1963
[2] Anthony Griffiths, Elenydd (hen berfeddwlad Gymreig), Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 2010.
Rhai o
gopaon unig
yr
Elenydd