Lluniau o Afon Teifi sydd uchod yn cychwyn ar ei hynt o Lyn Teifi i’r mor yn Aberteifi, taith o ryw 75 milltir. Ar ddechrau’r siwrnau, rhed yn wyllt i lawr i gwm Frongoch ac ar hyd ochr rhosdir Gargoed. Yna, arafu ychydig wrth fynd heibio caeau Penddolfawr, Caemadog a hen ddolydd cysegredig Ystrad Fflur. Y lle nesaf ar ei thaith yw Ponthydfendigaid ac yna Cors Caron, cyn ymadael â’r ucheldiroedd a chychwyn am feysydd mwy ffrwythlon de Ceredigion.
Afon Teifi
yn llifo allan o
Lyn Teifi
ar ei siwnau
i lawr
cwm Frongoch
a heibio i hen
Abaty
Ystrad Fflur.
Mae
Llyn Teifi
yn gwasanaethu fel cronfa ddŵr
i ran helaeth o Geredigion.
Dyma lun o’r argae sydd
ar draws
y fan lle llifa
Afon Teifi
allan o’r gronfa
N779674
Llun pensel gan J.G. Wood (1811)
[1] J.G. Wood, Principal Rivers in Wales, London, 1813
The Tivy issues out from the lake by so small an outlet, as scarcely to accredit its relationship with the noble river to which, in my summer excursion, I was first introduced at Cardigan
[2 B.H. Malkin, ‘The Scenery, Antiquities, and Biography of South Wales’, London, 1803.
Dau gan mlynedd yn ôl, nid oedd argae ar Lyn Teifi, fel y’i gwelir yn y llun pensel gyferbyn gan J.G. Wood[1]. Tua’r un amser â J.B. Wood, bu B.H Malkin [2] hefyd yn ymweld â Llynnoedd Teifi ; roedd yn anodd, meddai ef, credu taw’r nant fach, gul, yma oedd ffynhonnell yr afon fawr, fawrfrydig a welodd yn gynt yn llifo i’r môr yn Aberteifi :