Pontrhydfendigaid a'r Cylch
SN738666
Dyma brif lwybr yr hen bererinion y canol oesoedd ar eu ffordd (o gyfeiriad y gogledd a’r gorllewin) i abaty Ystrad Fflur, Heddiw, mae'r droedffordd i'w geld yn dechrau wrth ymyl Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, yn croesi Nant Mynaches ac yna yn rhedeg ar hyd gwaelod caeau Penwernhir. Wedyn, mae’n dilyn godre Penybannau am tua milltir cyn disgyn i lawr at hen adeilad Bronberllan. Yn ôl Richard Moore-Colyer, dyma lle byddai’r pererinion yn dod i olwg yr Abaty am y tro cyntaf [1] :

Here the abbey first came  fully into view and visitors no doubt marvelled at its splendours, the massive limestone walls and finely executed tracery contrasting starkly with the crude vernacular architecture of the surrounding countryside

Enw arall ar y lôn, yn lleol, yw Lôn Dywyll, mwy na thebyg yn adlewyrchiad o’r coed sydd yn tyfu  yn wyllt ar yr ochrau am ran helaeth o’r ffordd. Erbyn heddiw, does fawr o neb yn defnyddio lôn, dim ond ambell i un yn mynd allan am ychydig o awyr iach yn y wlad.
Lôn Mynaches
neu
Lôn Dywyll
i rai
pobl lleol
Casgliad o Luniau