Y dudalen flaenorol Previous page

Mae cyfeiriad at afon Marchnant yn siarter Rhys ap Gruffydd - 1184. Rhys ap Gruffydd, neu Yr Arglwydd Rhys fel y’i galwyd ef, oedd prif noddwr abaty Ystrad Fflur yn y ddeuddegfed ganrif.


Yn y llun uchod mae’r afon yn ymadael â Rhos Marchnant ar ei ffordd i uno ag afon Meurig ryw filltir neu lai yn is i lawr y cwm. Yng nghyfnod cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd yr afon a Rhos Marchnant yn agos iawn at galon y rhai hynny a gafodd eu geni a’u magu yn y cyffiniau. Mae’r penillion isod yn adlewyrchiad da o’r berthynas rhwng dyn/dynes a’i  ardal/hardal enedigol. Ymryson sydd yma rhwng cyfaill a ‘Thomas Bach’ Pantllidiart, ar ôl iddo fod o dan driniaeth yn un o ysbytai Caerdydd (Awdur anhysbys, Welsh Gazette, 1933)

SN737696

Y dudalen flaenorol Previous page

1

Ni charwn i fyth fwrw

Fy mywyd yng Nghaerdydd

A cherdded byth ar ‘bafin’

Lle nad oes rhodio rhydd

2

Dewiswn i ffyn baglau

I grwydro dros Brynrhydd

Cyn byth bodlonwn aros

A byw yn nhre’ Caerdydd

3

Rwyf i am fwrw ‘nyddiau

Ynghanol grug a brwyn,

Yn sŵn hen afon Marchnant

A bref y da a’r ŵyn

2

Wel pam y cariad Tomos

At ardal lom ― ’rhen law?

‘Does dim i weled yno

Ond crawcwellt, niwl a glaw

5

Os nad oes dim i’w weled

O’r Rhos hyd fanc Llwyn Mwyn

Caf yno gywed cwyno

Y gwynt ym mrig y brwyn

6

A gweld y lloer yn codi

Dros war y Drawsallt llwm

A gwrando cân hen Farchnant

Hiraethlon yn y Cwm

Afon Marchnant ar ddiwrnod

o haf

yn y

flwyddyn 2011

www.hanesybont.co.uk