Pontrhydfendigaid a'r Cylch
Mae yna dri enw i’r nant yma - Nant Lluest,
Nant Mynaches a Nant-y-cwn.

Nant Mynaches yw’r rhan
sydd yn
rhedeg i lawr
ar hyd waun
Penwernhir
Mae yna dri enw i’r nant yma - Nant Lluest, Nant Mynaches a Nant-y-cwn.  Nant Lluest yw'r enw a roddir ar y rhan gyntaf, ond o dan Penwernhir, gyferbyn â Chwm Mawr, cyfeirir ati fel Nant Mynaches. Ar ôl iddi groesi Lôn Mynaches, a chyrraedd cyffiniau pentre Ponthrydfendigaid, gelwir hi yn Nant-y-cwn.
Ar un adeg roedd Nant Lluest yn llifo allan o gronfa ddŵr ger Glanpond – cronfa ddŵr ar gyfer gwaith plwm Cwm Mawr. Yn llifo i mewn i’r pond roedd nant arall o’r enw Nant Llethr. Erbyn heddiw, mae’r gronfa ddŵr wedi diflannu ac mae’r mapiau cyfoes yn dangos Nant Llethr a Nant Lluest fel un. Mwy na thebyg mai felly oedd pethau cyn ‘y cronni’ a bod yna, yn wreiddiol, bedwar enw.  
Mae'r enw Nant Mynaches, mwy na thebyg, yn deillio o gyfnod Ystrad Fflur a'r pererinion oedd yn teithio ar hyd Lôn Mynaches. Yn y ddeunawfed ganrif roedd yna nifer o fythynnod yn ymyl y nant :
1731 Lease for 13 years from the Rt. Hon. John Edwards, Lord Vicount Lisburne, to Morgan William of the parish of Gwnnws, co. Cardigan, yeoman, of a tenement called Nant-finaches and 5 cottages, all in the said parish of Gwnnws. Yearly rent £9 7s 0d, 6 chickens, 2 geese, a hen and 20 eggs, suit at Rhydfendigaid Mill [1] and a heriot of the second best beast [2]. {NLW            
[1]  Y tenant i falu ei ŷd (neu rhan ohonno) ym melin Rhydfendigaid
[2]  Rhyw fath o doll farwolaeth (death tax)
SN734672