Saif hen adfeilion Penlan rhyw filltir i'r dwyrain o abaty Ystrad Fflur. Yn wreiddiol, mae’n sicr mai rhan o dir yr abaty oedd Penlan, ond does dim cofnod o hynny. Rhyw gan mlynedd ar ôl diddymiad y fynachlog (dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg) mae yna gyfeiriad at Penlan fel rhan o ystâd John Vaughan, Trawscoed.
Mae’n rhesymol meddwl bod yr hen weddillion cerrig sydd i’w gweld heddiw wedi bod, rywbryd, yn dy sylweddol i rhywun. Wrth ymyl, mae yna olion perllan gynhwysfawr yn tystio i hynny – perllan yn cynnwys coed afalau, gellyg, eirin, ceirios a llwyni gwsberys a cwrens duon. Mae’n weddol siwr bod y lle. ar un adeg, yn gartref i rywun cymharol lewyrchus yn yr ardal. Byddai, efallai, yn cyflogi gwas neu ddau a hefyd morwyn neu ddwy, ond ni fyddai yn berchen ar y ty na’r tir - roedd Penlan, a mwyafrif o’r ffermydd oddi amgylch, yn rhan o ystâd Trawcoed hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif.