Edrych i lawr
ar y tir o flaen
hen abaty
Ystrad Fflur
a fferm y
Fynachlog Fawr
SN 746657
Tynnwyd y llun uchod o lecyn ychydig dros dri chan troedfedd uwchben y caeau gwyrdd
sydd i’w gweld yn ymestyn i’r gorllewin o gyfeiriad hen abaty Ystrad Fflur. Mae’r
caeau hyn wedi eu llwyr amgylchu gan ddwy afon nodedig (nas gwelir yn y llun) ; ar
y chwith mae’r Glasffrwd yn llifo, hytrach yn gylchol, i ymuno â’r Teifi sydd yn
rhedeg ar lwybr mwy syth ar yr ochr dde. Wrth syllu ar y llun, mae’n ddiddorol sylwi
pa mor wastad yw’r caeau fel petai rhywrai, rywbryd, wedi bod yn tirlunio’r lle yn
ofalus. Hefyd, efallai, wedi ail-