Y dudalen flaenorol Previous page
Y dudalen flaenorol Previous page

[1]


[2]

Richards, Henry (1856-1890), "Glanaraeth," gweinidog gan y bedyddwyr yn Felinfoel ; bardd adnabyddus yn ei gyfnod

Syr O.M. Edwards, Yn y Wlad, Wrecsam, 1921

www.hanesybont.co.uk

Hwyrach, yn nyfnder gaeaf, bod yr hen gors i’w  gweld yn ddu ac yn farw ac yn cyfuno popeth a wna aeaf a mynydd-dir yn anghysurus [2]. Ond pan ddaw’r haf a’r irisau melyn yn eu blodau, mae iddi harddwch unigryw. Bu i Syr O.M. Edwards, hefyd,  gael ei syfrdanu gan burdeb gwyn y plu’r gweunydd.

Roeddynt yno wrth eu miloedd, yn llanerchi o wynder ysgafn, tonnog, byw, heulog . . . (Rhoddent) i’r hen gors ddu hagr ei gogoniant gwyn . . . Yr oedd y cyfuniad o wynder, disgleirdeb, a chynhesrwydd yn y fan olaf yng Nghymru y buaswn yn mynd i chwilio  am  dano . . . Yr oeddwn mewn heddwch  â’r lle na hoffwn gynt

Daear fawnog heb dir fwynion,- ei gwedd

Sydd fel gwg ellyllon :

Garw erch grug hagr yw hon

Cwrs yw cyrrau cors Caron      

                                                                               Glanaraeth [1]

Cors Caron

Irisau melyn

(neu enfys y gors)

ar

Gors Caron

SN702646