1.

Richard Davies (Isgarn), Llawysgrifau, LlGC

2

The Legend of Maes Llyn, www.bbc.co.uk/wales/mid/sites/walks/pages/cors_caron.shtml

3.

Ceredigion County Council, http://pilgrim.ceredigion.gov.uk/index.cfm?articleid=2405

4.

Evan Evans, Ar Ymylon Cors Caron, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1967.

5.

D. Stanley Jones, Y Genhinen, Ionawr 1899, tudalennau 8 a 9

Pontrhydfendigaid 1796

On the road from Tregaron northwards, about a mile from the town, I find two paved places in the form of graves, supposed to be the sepulchres of two persons that merited internment on a cross road. A mile further, close by the road, is a beautiful lake called Llyn y Maes, or the lake of the Fields, where old tradition says, formerly stood the town of Tregaron: it is about a mile in circumference . . . producing no fish of any great value.


Mae chwedl llyn Maes Llyn yn un gyfarwydd ; yn ôl hanes, roedd ‘yr hen Dregaroniaid’ yn ddu hwnt o bechadurus ac fel cosb, un noswaith, cafodd y dref ei tharo gan fellt a tharanau, rhai na welwyd eu tebyg erioed. Llosgwyd y lle i’r llawr ac yna boddwyd pob peth oedd ar ôl o dan ddŵr dwfn, mawr [2].

. . . a fenny, marshy bog, reaching to the river Teivi, which produces the best sort of peat that I ever saw, to supply the neighbourhood with firing. They dig them very large, the larger the better; when dried ready for the grate, or hearth, they make exceedingly good fire, leaving very few ashes, and those as white as chalk, and light as feathers.

Ar ôl y nodyn am llyn Maes Llyn, mae’r awdur yn troi ei olwg at Cors Caron ; iddo ef doedd dim mawn tebyg i fawn Cors Caron. Nid ef yn unig oedd yn credu hyn, fe wnaeth Evan Evans, lawer yn ddiweddarach,  ddweud yn union yr un peth yn ei lyfr - Ar Ymylon Cors Caron [4].

Mawn ar Gors Caron [3]

"In this coppice there is an uncommon sight of raspberries growing naturally."

Mae yna erthygl ddiddorol yn y Cambrian Register (1796) yn dwyn y teitl  ‘Some account of the Parish of Caron - situated in the upper part of the county of Cardigan’. Does dim sôn pwy yw’r awdur ond mae’n amlwg ei fod yn dod o’r ardal – mae’n cyfeirio at Plwyf Caron fel  ‘my native parish’.  Mae Isgarn yn tybied mai John Williams, Prifathro ysgol Ystradmeurig yw’r ysgrifennwr [1], gan mai  ei frodyr (Evan a Thomas Williams) oedd cyhoeddwyr y Cambrian Register.  


Mewn un man, mae’r erthygl yn rhoi disgrifiad reit fanwl o’r ffordd sy’n rhedeg o Dregaron i Bontrhydfendigaid neu’r Bont :

The other side, on the brow of a range of hills, is a fine coppice of various sorts of trees, where formerly many goats fed. In this coppice there is an uncommon sight of raspberries growing naturally.


Yna mae nodyn am Ffynnon Elwad. Faint o bobl sydd yn gwybod an Ffynnon Elwad (yn agos i Maes Elwad?) a’r dyfroedd iachusol sy’n tarddu yno :


. . . in a meadow below, is Ffynnon Elwad, formerly of great note for curing sore breasts.


Symud ymlaen eto, mae yna gyfeiriad at ‘Bannau Bron y Mwyn’ :


This hill is called Bannau Bron y Mwyn, from the mine work which used to be carried on here. There are now to be seen several deep shafts, and are level on the east side of the hill, in a place called Cwm y Graig Goch . . . it is said that silver, as well as lead ore, is lodged in the bowels of this rocky hill; but no attempt to dislodge it has been made for many years.

Does dim dwywaith mai'r peth mwyaf diddorol yn yr erthygl hon yw'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu am y Bont :


At the north end of the parish is a village of no great repute, wherein dwell not many honest labourers – but robust athletic miners – of no religion, though I hope, reformation is began among them, as there is now of late a chapel built, for the use of a well qualified extempore preacher. The village, partly in the parish of Gwnnws, and partly in this, is called Rhydfendigaid, i.e the Blessed Ford, from the river Teivi being fordable there, over which is a very old bridge of stone. It is to be hoped now, the inhabitants will not long contradict the name of the place, by their manner of living.


Mae’n anodd derbyn y disgrifiad yma o’r Bont – heddiw mae’n le gymharol heddychlon a gŵar. Ond nid dyma’r unig dystiolaeth fod pethau ddim yn rhy dda rhyw ddau can mlynedd yn ôl. Mewn erthygl yn y Genhinen yn 1899 [5], fe ysgrifennoddd Stanley Jones :


Flynyddoedd lawer yn ôl, (h.y. tua dechrau’r ganrif) yr oedd Pontrhydfendigaid yn enwog ar gyfrif yr haid o ladron a gyfaneddent yno; pechodau y rhai arweiniodd ddau ohonynt i’r crogbren am lofruddio un o’r enw ‘Twn y Gof’. Er fod Twm yn un o’r cwmni, ymddengys ei fod wedi bwgwth bradychu cyfrinach y lladron ; ac un noson, pan yn dychweluyd adref o Dregaron, aeth tri o’r lladron i’w gyfarfod mewn man unig ar y ffordd, a llofruddiasant ef mewn dull ysgeler a chreulawn, a chafwyd ei gorph marw dranoeth mewn perth eithin ar ochr y ffordd.


Mae yna ragor o wybodaeth am lofruddiaeth Twm y Gof ar dudalen arall o fewn y wefan hon – Mwrdwr yn y Bont

Nodiadau

www.hanesybont.co.uk

Rhywbethh sydd yn tynnu fwy o sylw'r dallenydd, efallai, yw’r cipolwg mae’r erthygl yn ei roi o’r tirwedd ar yr ochr sy’n wynebu Cors Caron, ar yr ochr dde i’r ffordd fawr o Dregaron i Bont :