Ystradmeurig is a small village, situated about 14 miles to the south of Aberystwyth on the road leading from thence to Strata Florida . . . About two miles in the south direction lies the beautiful village of Rhydfendigaid (the Blessed Ford), so called by the Monks of Strata Florida, in the middle of the Tivy glen. About a mile further in the same direction, in the upper corner of the valley in the bosom of the lofty hills,  is the venerated Abbey of Strata Florida. About half a mile in the east direction from the last place, are the Tivy Lakes, remarkable for their supply of fish, which are daily routed to in the summer by fishermen. About 90 years ago, on a fine morning in the month of June, a young man, with his fishing tackle, was seen starting from Ystradmeurig ; but while near the lakes it suddenly began to flash lightning, which was followed by terrific pearls of thunder. The young man hid himself in a cave in a rock, and before starting from there, he composed the most striking stanzas ever written in Welsh, called “Cywydd y Daran” (Thunder Poem). The young man was a student at Ystradmeurig school. His name was David Richards, known among the bards as Dafydd Ionawr.

Fel y cyfeiriwyd uchod, enw genedigol Dafydd Ionawr oedd David Richards. Ganwyd ef yn 1751, yng Nglanymorfa yn ymyl Tywyn, Meirionydd. Daeth i gysylltiad â Ieuan Brydydd Hir pan oedd yn ei arddegau.  Llwyddodd Ieuan Brydydd Hir i berswadio ei deulu i’w  anfon i ysgol Ystradmeurig, at Edward Richard.  Yno y bu’n ddisgybl disglair gan ragori mewn mathemateg a’r clasuron.


Bu’n dysgu am gyfnod yn ysgol C.A. Tisdaile yn Wrecsam cyn mynd  i Goleg Iesu, Rhydychen yn 1774. ‘Doedd e’ ddim yn hapus iawn â safon yr addysg yn Rhydychen ac ar ol tymor fe aeth yn ôl i ddysgu.  Bu yn athro mewn nifer o ysgolion ar draws Cymru cyn ymsefydlu yn derfynol yn ysgol ramadeg Dolgellau. Bu farw yn 1821 a chladdwyd ef yn Nolgellau.


Daeth Dafydd Ionawr o dan ddylanwad dau o feirdd ac ysgolheigion mwyaf y 18fed ganrif, ac yn amlwg fe adawsant argraff fawr arno. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ac mae rhai wedi cael eu rhestru yn y Bywgraffiadur Cymreig :  


Cywydd y Drindod, 1793; Hanes Bywyd Dafydd Ionawr, ‘broadside’ ar fesur rhydd yn disgrifio ei daith i gasglu enwau tanysgrifwyr i’w gywydd, a’i fethiant; Y Mil-Blynyddau, 1799; Gwaith Prydyddawl, 1803; Joseph, Llywodraethwr yr Aifft, 1809; Barddoniaeth Gristianogawl, 1815; Cywydd y Diluw, yn dair Rhan, 1821; Cywydd y Drindod, 1834; Gwaith Dafydd Ionawr, dan olygiad y Parch Morris Williams, M.A., Amlwch, 1851.

Pysgotwr ar Lyn Teifi

J.G Wood (1812)

Pysgota ar Lynnoedd Teifi

Dafydd Ionawr

yn

Dafydd Ionawr

(ffotograff o ddarlun)

Casgliad John Thomas yn LlGC

(Trwy ganiatâd LlGC)

www.hanesybont.co.uk

Bron i gan mlynedd a hanner yn ôl (Ionawr 1866), fe ymddangosodd colofn yn y Carmarthen Journal gan ddisgybl ifanc yn ysgol Edward Richard, Ystradmeurig. Enw’r disgybl oedd Ebenezer Morgan, ac yn ei golofn rhoddodd fraslun o bentre’ Ystrameurig ac ychydig bach o hanes yr ardal. Mae’n gyfraniad ddiddorol  - mae’n cyfeirio’n garedig, mewn un man, at Bontrhydfendigaid. Hefyd mae’n cynnwys stori am Dafydd Ionawr ar ei ffordd i bysgota yn Llynnoedd Teifi - mae hon yn werth ei hailadrodd :

Mae ‘Cywydd y Daran’ i’w weld yn y llyfr ‘Cywydd y Drindod : yn nghyd a Chywydd Y Daran, Marwnad Iorwerth Rhisiart, a chân o fawl i'r Creawdwr gan Dafydd Ionawr’ (Argraffydd J. L. Brigstocke, Caerfyrddin,1834).  

CYWYDD Y DARAN

Y fellten hoywaf  wyllt-daith,

Nis gŵyr dyn derfyn dy daith ;

Ac ar d’ ol gwir yw y daw

Crochlef (a llif y crychwlaw)

Y daran o’i du oror

Mal berwawg derfysgawg fôr.

Wybrendwrf, braw i’r bryn-dir,

A dychryn i’r dyffryn dir :

Dyfnfawr ddig ruad anferth,

A thrwm goruwch pob cwm certh,

Rhyfedd ! mwy y rhuthr hefyd

Na thrystau cerbydau’r byd.

Yn drathrwm, dan frwd ruthraw

O’r entyrch, y gwlych y gwlaw

Fryniau a dolau’r dulawr,

O foliau’r cymmylau mawr.

Rhêd nentydd pob mynydd maith,

Mawr yrfa, i’r môr hirfaith,

A phob afon aflonydd

Gwreichioni a berwi bydd.

Rhuadwyllt yw ei rhediad,

Dyrys lif aeth dros y wlad.

Trwy elltydd o goedydd, gwynt,

Trwy’r moroedd tery’r mawrwynt.

Terwyn follt pob taran fawr

Ennyna drwy’r ddu nenawr ;

Llidiog yw’r awyr llydan

O niwl du, ‘n olau o dân.

Ni cherddir y doldir dwys,

Nag ael uchelfryn gwiwlwys,

Gan genllysg, derfysg dirfawr,

Gan wlaw a mellt, gan li’ mawr ;

Gan ofn dw’r, gan nef yn dân,

Ni ellir myned allan.

Geirwon dyrfau ‘mhob goror

Y sydd o fynydd i fôr,

Yn debyg (gallwn dybied)

Ped ae’n ddarnau creigiau cred.

Gwrdd yttynt ! ac o’r ddeutu

Daeargryn a dychryn du.

Dywaid f’’ Awen, a’m duwies,

O’r nef gu ‘n t’w’nnu fel tes’

Pa redwyllt, pa ruadwy

Dwrf wybren ? a’r perchen pwy ?

Dyw Geidwad bendigedig,

Rhelowr y dyfnddwr dig ;

Duw a bair, ─ ar ei air ant ;

─ Ust ! ewybr ! ─ a distawant.

Nadau dw’r a thân ydynt,

Rhyfel mawr drwy ‘r orawr ynt.

Eirias o dân a’i wres dig

Fal ffwrn o ufel ffyrnig,

Y dw’r o’i amgylch a dodd,

A’i fyddin boeth a foddodd.

Da, dirfawr, a diderfyn,

A pherffaith yw gwaith Duw gwyn ;

Nerthawg a gwyrthiawg ar g’oedd,

A thradoeth ei weithredoedd.

Yn ddilys, iawn addoli

Y mwyn Ior a ddylem ni.

O’i lán sancteiddiawl loywnef

Fendigaid, y dywaid ef ;

Niwl wybren, anniben wyt,

Nofiedydd y nef ydwyt,

Gwasgar i’th gwsg oror,

Dy  loches yw mynwes môr.

Niwl wybren â’n ol obry

Yn union dros y fron fry ;

Gloywi neu ffufafen faith,

Fe welir y nef eilwaith ;

Drwy’r wybrenydd dydd a da’n

Ei lwyr-wych wely arian :

Yr haul o’i belydr y rhydd

Loywder i bob rhyw wledydd ;

Disgleirdeb ei wyneb ef

A laena’r oleunef ;

Ei des wna’n gariadusol

Bob bryn, bob dyffryn a dol;

Gwên natur a gawn etto

Yn ol i’n hyfrydol fro ;

A mwynaidd lais emynau

Wna’r adar yn gerddgar gu.


Allan o’r llyfr Cywydd y Drindod : ynghyd a Chywydd Y Daran, Marwnad Iorwerth Rhisiart, a chân o fawl i'r Creawdwr gan Dafydd IonawrArgraffydd J.L. Brigstocke, Caerfyrddin, 1834.

Copi ar gael yn LlGC