2.

Bu W R James yn wael iawn pan oedd tua naw oed – yn dioddef ‘enyniad yr ymysgaroedd’ (inflammation of the bowels). Yn ei eiriau ei hun dywedodd:


Bu’r meddyg (yr enwog Ddr. Rowlands, Pontrhydfendigaid, am yr hwn oedd sôn mawr yn agos a phell yn ei ddydd) yn hynod garedig a pharod yn ystod yr holl amser. Un diwrnod dywedodd, (yr oedd y Doctor yn byw o fewn rhyw hanner can llath o dŷ rhieni Mr James) ‘Os bydd Bili byw, rhaid fod ynddo fywyd anghyffredin’ . . . cafodd gymaint o drafferth gyda mi, fel nad annaturiol yw tybied ei fod, ar ôl trio pob peth, yn awyddus i weled fy afiechyd yn terfynu rhywfodd; a dywedodd y rhoddai ef i mi feddyglyn fyddai yn sicr o fy ngwella, neu ynte brofi yn angeu i mi (yn amlwg ‘kill or cure’) . . . Pilsen ddysglaer, fel arian byw, oedd y meddyglyn; ac wedi i mi ei chymeryd, dechreuais wella ar unwaith . . .


Yr hyn a dynnodd fy sylw i oedd y cyfeiraid at y meddyg Roland Rowlands. Yng nghyfrifiad 1851 (1851 census), roedd Roland Rowlands wedi ei gofrestru fel ‘surgeon’ ac aelod  o’r ‘Royal College of Surgeons’. Yn wreiddiol, roedd yn hanu o  Langeitho ond erbyn 1851 yn byw yn Dolybont, o fewn ergyd carreg i gartref W R James. Roedd yn 37 mlwydd oed yn 1851, ac yn briod a thri o blant. Mae yna stori sy’n mynnu taw ef oedd yn gyfrifol am orfodi’r Manchester & Milford Railway Company i fynd â’r rheilffordd ar draws Cors Caron yn hytrach na thrwy bentre’ Pontrhydfendigaid. Yn ôl y stori, fe wnaeth Dr Rowlands wrthod gwerthu darn o dir strategol i’r cwmni. Mae hon yn stori ddiddorol – person lleol yn herio cwmni mawr gwladol ac yn ennill. Yn anffodus prin ei bod hi’n wir - os am wybod mwy am y stori yma, cliciwch yma

1

Syndod imi oedd darllen fod Lloyd George wedi bod ym Mhontrhydfendigaid ac Ystrad Fflur. Mae hyn yn diddorol ynddo’i hun, ond beth sydd, efallai, yn fwy nodedig yw ei fod wedi teithio yr holl ffordd o Lundain i fod yn bresennol yn angladd W R James - mae hyn yn dweud llawer am y gŵr arbennig yma o’r Bont.  Yn ôl W P Williams, golygydd Seren Cymru ar y pryd, fe wnaeth ‘Y Gwir Anrhydeddus D Lloyd George, Canghellydd y Trysorlys’ fynegi ei deimladau yn yr angladd yn Ystrad Fflur gan ddweud:


“Cydalaraf â chwi ar farwolaeth fy hen gyfaill, W R James, un o weision anwylaf Crist”

3.

Codi cwestiywn mae’r nodyn nesaf. Mae’n debyg bod W R James yn gerddwr da, ac arferai ymweld â llawer i ‘lecyn a llannerch’ ar gyffiniau’r pentref, er enghraifft:


. . . Pen y bannau, Copäau y Dwnnau, a Chraig Penlan, ar wyneb yr hon mae natur wedi cerfio pwlpud manteisiol, ar ffurf rhai o’r pwlpudau oedd yn hen gapelau Cymru.


Mae pawb o bobl lleol yn gwybod am Pen y Bannau a nifer ohonynt yn ymwybodol o bwlpud Craig Penlan, ond rwy’ i’n bersonol ddim wedi dod ar draws neb yn cyfeirio at Copäau y Dwnnau. Ble mae’r rhain - ar dir Gilfach-y-dwn?

Pontrhydfendigaid

www.hanesybont.org.uk

Mi ddes i ar draws llyfr T R Morgan yn gynnar iawn yn fy mywyd ac rwy’n dal i  droi’r tudalennau o dro i dro gan sylwi ar rywbeth newydd yn aml - pethau bach dibwys, ond yn ddiddorol. Tair enghraifft wnaeth fy nharo yn ddiweddar fel rhai gwerth eu nodi.

Y Parch W.R.James

Os am ddelwedd fwy cliciwch  ar y

 llun

Mae ‘Cofiant y Parch W R James’ gan T R Morgan yn lyfr adnabyddus i fwyafrif o fedyddwyr Pontrhydfendigaid a Swyddffynnon. Un o enwogion yr ardal oedd W R James, wedi ei eni a’i  fagu yn y Bont, ond wedi treulio dros ddeng mlynedd ar hugain yn yr India, fel Cenhadwr. Er i’w waith Cenhadol fynd ag ef i  ffwrdd, ni chollodd gysylltiad a’r pentref na’r capeli y bu yn eu mynychu yn ŵr ifanc. Roedd yn dod nôl yn rheolaidd i Gymru ac yn ymweld â’i hen gartref, lle roedd ei frawd, Robert James (Robert y Gof) yn byw. Hefyd roedd yn cyfnewid llythyron yn gyson ag aelodau Carmel ym Mhontrhydfendigaid. Yn ôl T R Morgan:



Tra yn India, ‘roedd yn ysgrifennu yn gyson i Seren Gomer, Seren Cymru a’r Herald Cenhadol. Ym Mai 1907, ysgrifennodd i’r GREAL am Garmel gan gyfeirio at hoelion wyth y sêt fawr:

Yn y sêt fawr bresennol gwelir hen gyfoedion annwyl i Mr James (fy mrawd). Thomas Jenkins, William Jones, Dr J. Morgan, YH., Jenkin Jenkins, Joseph Morgan, a Thomas Jones; gyda’m brawd Robert James a Roderick Williams yn arwenyddion y gân.

Cadwai Mr James ei gyfeillgarwch â’i hen gartef, trwy ohebu yn gyson a chynnes . . . a’i ffrindiau, ynghyd â . . . ymweliadau ar bob achlysur ag oedd yn ddichonadwy iddo . . . Pan ddeai am ychydig seibiant i’r wlad, yr oedd wastad yn ymwneud am y cyfle cyntaf i gyrraedd gorsaf Ystrad Fflur, a’r hen annedd gysegredig yn ei olwg, rhif y 3ydd Heol y Bont.