1

Holl drigolion Cymru sy'n baeddu yn y byd,

Dymunwn arnoch wrando a chofio hyn o hyd;

Rhai ni roddant glust i rybudd, ond beunydd i bob bai,

A fydd yn wban obry gan waeddi “Och!” a “Gwae!”


11.

Dywedai’r ynad, Euog, ( a’e Rheithwyr gydag e)

I gael eu dienyddio a’u llarpio yn y lle;

Y bachgen oedd yn gweddio yn ddyfal iawn ar Dduw

Am faddeu holl feiau er mwyn y Ceidawad gwiw.

2.

Duw a'n cadwo hwyr a bore rhag dilyn llwybrau llid,

Mae yma rai'n dioddef am eu beiau yn y byd;

Os carwn ddrwg ar ddaear bydd 'difar ddydd a ddaw,

A'r enaid bach ei boeni dan lid ar aswy law.


12.

Wrth esgyn ar yr ysgol fe waeddai’n groew ei gri,

Gan ddweyd , O nhad, O nhad, pa fodd wynebwch fi

Pan b’om yn nhrag’wyddoldeb ger bron y Barnwr pur

Chaiff celwydd ddim ei dderbyn un gronyn, ond y gwir.

3.

Am bentre Rhydfendigaid bydd coffa yn ddible,

Bu gwaith yr hen gryf-arfog yn llidiog yn y lle;

Wrth wrando ar y gelyn a'i ddilyn efo'i ddawn,

Daeth yno ddau o ddynion i ddiwedd creulon iawn


13.

Dduw, y Tad bendigaid, derbyn fy enaid i ,

Er mwyn y Gŵr fu farw ar fynydd Calfari,

Pe cawn i ‘chydig amser i erfyn Brenin nef,

Er crog fy nhad i’n rhwyog, trugarog ydyw Ef.

4.

Hwy aethant ar ryw noswaith mewn llidiaeth eithaf llym,

A'r gydwybod wedi ei serio yn ffaelu deffro dim,

I gyfarfod Thomas Evans a'i fwrddro yn y fan,

Wrth 'mofyn meddyginiaeth i'w anwyl blentyn gwan


14.

Pe rhoddech im’ fy mywyd er mwyn y Meichiau mawr,

Mi weddiwn a chlodforwn tra byddwn ar y llawr,

Pe cawn i ond pythefnos neu wythnos fod yn fyw,

Mi fyddwn ar fy ngliniau yn gweddio Iesu gwiw.

5.

Thomas Price ddywedai mewn geiriau lawer gwaith

Gwnae fwrddro Thomas Evans cyn diwedd pen ei daith;

Apeliai ei gym'dogion "O plyga, gweddia ar Dduw,

Na foed it' feddwl hyny, O, fachgen clafaidd clyw."

15.

Pob peth drwy’r byd foddlonai os cae e ddydd neu ddau

I weddio ar yr Arglwydd am faddeu iddo’i fai,

Er cymaint oedd e’n ddeisif ei golli gadd e yn hy,

Pwy wyr na i’r Iesu wrando ar ei gri.


6.

Ond Thomas ni wnae 'styried am drag'wyddoldeb maith,

Ond temptio'i frawd-yn-nghyfraith ryw noswaith at y gwaith;

Dywedai Thomas, "Llidiwch, na fyddwch ddim mor llaith,

Nid oes un gŵr yn unlle a'n gweliff wrth y gwaith."


16.

Y ddau a gadd eu colli yn Aberteifi fwyn,

A’u cyrff eu tori’n ufflon, pwy galon fydd heb gwyn?

Y fam sydd am ei phlentyn a’r wraig sydd am ei gŵr,

A rhei’ny hwyr a boreu yn colli’r dagrau d’wr

7.

‘Roedd yno ŵr yn gweled, a’i lygaid ymhob man,

Fe ddaeth a hi i’r amlwg, i olwg cryf a gwan,

Ac yno yn lle balchder, yn drymder mawr aeth hi,

Cwnstabli a ddaeth yno a’i ffeindio yn y tŷ.

17.

Mae’n drymder mawr ar wraig sy a’i phlentyn gwan, tlawd,

Un a oedd iddi’n wr, a’r llall iddi’n frawd,

Mae hono yn ei gwely yn glafaidd iawn, mi wn,

Yn gwaeddi am ei phriod, tro hynod iawn oedd hwn.


8.

I’r carchar mawr fe’u cyrchwyd, ni hiriwyd dim yn hir,

I Aberteifi fwyngar, sef carchar sound y sir,

Ac yno caent eu cynal nes i ddydd eu treial dd’od,

Un yn dair ar ddeg ar hugain a’r llall yn ddeunaw o’d


18.

Yr wythfed dydd o Ebrill y buont ar y pren,

Y flwyddyn oed ein Prynwr, Llywodraethwr dae’r a nen,

Rhoi deunaw cant yn gryno, rhof eto ddwy ac un,

A phedair blwydd ar bumtheg, wiwdeg landeg lun.

9.

At Tomos daeth pioden, gan ‘sgrechain ar y dydd,

I roddi iddo arwydd a rhybudd na ddoi’n rhydd;

Fe ffystodd hon y ffenest’ mewn gorchest mawr a stŵr,

Fel un fuasai’n gwaeddi “Mai’i golli gae y gŵr”.


19.

O hen ac ifanc hefyd sy’ mewn bywyd yn y byd,

Deued pob enw’n ddigynwr at y Prynwr mewn pryd

Dymunwn fod hyn yn rhybudd i bawb sydd yma’n byw,

I weddio o’u calonau a chadw deddfau Duw

10.

Fe ddarfu’r Judge ddywedyd, a’r Jury bob yr un,

Na chlywsant yn eu bywyd fath laddfa ddrwg ar ddyn,

O’r weithred ddyrus ddiriaid mae synied mawr a sôn,

O dref Caerdydd mae cwyno hyd ynys fwyn Sir Fôn.



www.hanesybont.co.uk

Mae copi o'r faled hon ar gael yn y llyfrgelloedd canlynol :

Llyfrgell y Sylfaenwyr, Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

 a

          Y Llyfrgell Gymraeg, Phrifysgol Cymru, Bangor

I weld yr ail 'Gân Alarus'

cliciwch yma

Cân Alarus

gan

Stephen Jones, Llanfaeryw

Yn rhoddi hanes Thomas Price a John Evans, Pontrhydfendigaid, pa rai a ddienyddiwyd ac a ddarniwyd ar ddydd Llun y Pasg, 1822, yn nhref Aberteifi, am fwrddro Thomas Evans, gof, o’r un lle, Rhagfyr 8fed, 1821

Mwrdwr y Bont (1821)

Yr ail gân alarus Mwrdwr yn y Bont Cynnwys Contents Adref Home
Yr ail gân alarus Mwrdwr yn y Bont Cynnwys Contents Adref Home

Y Gân  Alarus Gyntaf

Bryncrach lle lladdwyd Twm y Gof