1

Mae’n weddol sicr bod Mary Williams yn un o’r rhai cyntaf i’w bedyddio yn y Bont drwy drochi mewn afon yn 1834, hynny yw y flwyddyn y corfforwyd Eglwys Carmel. Dyma gofnod y Parch Robert Roberts,  gweinidog cyntaf Carmel  


Cefais alwad i bregethu i ardal Pontrhydfendigaid yn y flwyddyn 1834. Dechreuais ar y mynydd : llawer yn dod i wrando a sŵn y gwynt i’w glywed a’i deimlo. Dechreuais fedyddio yno, ac roedd yn boeth ar Satan i glywed y canu. [Allan o lyfr ar hanes can-mlwyddiant Carmel gan y Parch T.R. Morgan]


Ar ôl y bedyddio cynnar ac yna corffori’r Eglwys,  aeth yr aelodau ati  i adeuladu  ‘ty cymmwys i wasanaethu’r Arglwydd ynddo’. Cynhaliwyd y cyfarfodydd agoriadol yn yr addoldy cyntaf yn mis Rhagfyr 1837

 

2

Pregethwyd yng nghladdedigaeth Mary Williams gan y Parch J.T. Morgan (Thalamus),  ar y geiriau "Pa ŵr a fydd byw ac ni wêl farwolaeth?" J.T. Morgan oedd y trydydd gweinidog yng Ngharmel.  Mae’n debyg ei fod yn ŵr galluog fel bardd a darlithydd.  Treuliodd gyfnod hir yn America ond yng Nghymru y claddwyd ef.

3

Roedd John Maurice Davies  o Antaron yn ŵr bonedd, yn perthyn i deulu y Richards o Benglais, a hefyd i’r Arglwydd Ystwyth o Danybwlch.  Hefyd mae’n debyg ei fod â chysylltiad gwaed â Lewis Morris, Penbryn, Goginan.  Cafodd rhan o’i addysg yn Rhydychen.  Roedd yn fargyfreithiwr ac yn grwner i sir Ceredigion.

Ysgrifennodd ryw awdur, dienw, stori ddiddorol am Mary Williams yn cerdded tair milltir i lawr i shop Mary Morgan, Pontrhydfendigaid ar ddiwnod ei phenblwydd yn gant oed. Gofynnodd Mary Morgan iddi  ‘Sut ydych chi’n teimlo heddi Mary Williams?’ Daeth yr ateb yn syth, heb oedi ‘Wel, wir, rwy’n dipyn cryfach yn dechre’r ail gant na’r un cyntaf’.  [Welsh Gazette, Ionawr 1933]. Yn amlwg doedd Mary Williams ddim yn un oedd yn dioddef o Alzheimer’s

Rhan o fynyddoedd

 yr  

Elenydd

Mary Williams

Pant-y-carnau

Fe ysgrifennwyd mwy nag un cofiant i Mary Williams yn rhai o bapurau'r cyfnod. Mae dau gopi i’w cael yn LLGC (MS 6974) ond does dim nodyn yn dweud lle yn hollol y cyhoeddwyd hwy. Dyma grynodeb o’r ddau gofiant. Mae ychydig bach o anghysondeb yn y cofiannau, ond yr un darlun a geir gan y ddau ohebydd.

Yr olygfa o’r fan

lle safai hen anedd

o’r enw

Pant-y-carnau

ar ddechrau’r

bedwaredd

ganrif

ar bymtheg

Ychydig dros dair milltir i'r dwyrain o Bontrhydfendigaid, ar y ffordd i Flaenglasffrwd, Penbwlch, Moelprysgau a Towyfechan,  roedd yna, ar un adeg, hen anedd o'r enw Pant-y-carnau. Dyma gartref Mary Williams, neu Pali  Pant-y-carnau fel y gelwyd hi yn yr ardal. Yn ôl hanes, roedd Mary Williams yn ddynes hynod, pan oedd ieuanc, am ei nerth a'i gwroldeb. Roedd yn fam i 23 o blant a bu byw nes yn 103 (104?) oed ; claddwyd hi ym mynwent Ystrad Fflur ar y pumed dydd o Ionawr 1876.

Bu hi a'i gŵr yn gwasanaethu am flynyddoedd lawer ym Mhantyfedwen, un o gartefi bonedd yr ardal sydd o fewn hanner milltir i Ystrad Fflur. Roedd Mary Williams yn fawr ei pharch ym Mhantyfedwen ac, yn wir, un o ddisgynyddion teulu Pantyfedwen (gwraig Mr J Maurice Davies, Plas Antaron, Aberystwyth) a wnaeth drefnu gofal i Mary Williams yn ei blynyddoedd olaf.   

Mae'r llun isod wedi ei dynnu yn agos i'r fan lle safai Pant-y-carnau pan oedd Mary Williams yn byw yno. Yn syth o dan y tŷ roedd yr hen ‘hewl’ i fyny i Benbwlch ac ymlaen i Towyfechan a Moelprysgau. Heddiw mae'r ‘hewl’ hon wedi ei sarnu i raddau helaeth gan gerbydau mawr pedair olwyn ; yn anffodus mae’r cerbydau hyn yn torri'r hen arwyneb gan greu tyllau dŵr dwfn mewn mannau. Yn y llun mae afon Glasffrwd i'w gweld yn y pellter yn dechrau ar ei siwrnau i lawr  y cwm i Ystrad Fflur ac yna ymlaen i ymuno ac afon Teifi.

www.hanesybont.co.uk


marwolaeth Hen wraig 104 OED


Nid yn aml y gwelir tri ffigwr ar arch neb y dyddiau hyn, ond gwelwyd hynny yr wythnos ddiwethaf yn Sir Aberteifi. Cawsom y manylion mewn llythyr cyfrinachol. Pan oedd y flwyddyn 1785 yn ochneidio ar ei gwely angau ac yn tynnu ei thraed ati i farw, ac ar waith 1876 yn cael ei genedigaeth, yr oedd hen chwaer o'r enw Mary Williams, Pantyfedwen, yn ymyl Ystrad Fflur (Strata Florida), yn tynnu ei hanadl am y tro diwethaf yn y bywyd presennol. Claddwyd hi y Mercher canlynol, Ionawr y 5, ym mynwent yr hen Fynachlog. Pregethwyd yn ei chladdedigaeth gan Thalamus,  oddiar y geiriau "Pa ŵr a fydd byw ac ni wêl farwolaeth?" Ei hoedran ar yr arch oedd 102, ond cafwyd allan wedi ei chladdedigaeth ei bod yn 104 oddiar mis Tachwedd. Merch oedd i Henry Morgans, Dolfawr, ger Trawscoed (Cross-wood), ac roedd yn hynod am ei nerth a'i gwroldeb pan yn ieuanc, a pharhaodd felly hyd i henaint ei llwyr orchfygu. Pan oedd hi gartref cyn priodi, yr oedd iddi bedwar o frodyr hynod o nerthol a chyhyrog ; ac un diwrnod aethant i ymryson codi pedwar mesur o wenith a sefyll yn y mesur. Wedi i'r brodyr fethu, aeth hithau yn ei thro i sefyll yn y mesur, a chododd y pedwar mesur i fyny i'w chefn. Un tro, syrthiodd pwn o wenith oddiar  gefn y ceffyl, a gofynnodd i ddau ddyn ieuainc ei godi i fyny ac y buasai hithau yn dal pen y ceffyl. Gwnaeth y ddau ddyn ieuainc eu gorau, ond methasant. Gofynodd iddynt ddal pen y ceffyl a chododd y pwn gwenith i fyny heb gymorth un ohonynt. Ond dichon mai’r peth mwyaf neilltuol a wnaeth oedd cario dau fesur o haidd  o ymyl Aberaeron i Bontrhydfendigaid,  agos i ugain millitir o bellter, a phlentyn yn ei chôl, ac un arall dan ei gofal ; ac mae’r ffaith bod un dan ei gofal yn profi mai nid un bychan iawn oedd y plentyn a ddygai yn ei chôl. Adroddir llawer iawn o hanesion am ei nerth. Priododd ag un David Williams pan nad oedd ond tua deunaw oed. Treuliodd ei phriod lawer o flynddau o dan Mr Davies, gynt o Bantyfedwen, a chladdwyd ef tua 14eg mlynedd yn ôl. Yr oedd Mary Williams yn fam i 23 o blant, a chafodd 21 ohonynt faeth ganddi. Y mae pump  o honynt yn fyw heddiw. Bedyddwyd a derbyniwyd hi yn aelod gyda'r Bedyddwyr tua dwy flynedd a deugain yn ôl. Yr oedd ei synhwyrau yn glir a digwmwl hyd y diwedd. Bu tyrfaoedd lluosog yn ei gweld o bryd i bryd, a llawer o'i hanes wedi ei ysgrifennu y naill dro ar ôl llall. Ond "pa ŵr a fydd byw ac ni wêl farwolaeth?" Syrthiodd hithau er cadarned oedd. Aeth hithau y ddiwethaf o'i chenedlaeth, ar ôl sefyll yn hir yng nghanol dieithriaid. Mrs Browning ddywedodd, ― 'But the licence of age has its limit : thou diest at last'


  A Centenary Biography - A Correspondent writes, -


"Died January 1st 1876, Mary Williams, late of Pant-y-carnau near Pontrhydfendigaid, at the advanced age of 103. She was the mother of twenty-one children by the same husband. She visited the writer of these lines when she was ninety-six years of age, and desired him to take a memorandum of her early career. She was the eldest daughter of Harry Morgan, of Dolfawr farm, near Crosswood. About twenty years of age (deunaw medd rhai) she married David Williams, a farm servant, against her father's consent. She lived for many years in the parish of Lledrod, and from there they moved to Pant-y-carnau, near Pontrhydfendigaid. While her husband was with his companions at the reaping harvest in Herefordshire, she went with her youngest child in her arms, to Ystrad Teulo, near Llanrhystyd, for some barley, as there was no shop neither a storehouse for provision in her neighbourhood. She purchased two measures of barley at that farm, for 10s per bushel, and she carried the barley on her back to Mr David Morgan, miller, Pontrhydfendigaid, and without any rest on the road, a distance of fifteen miles, and the child in her arms. She mentioned many other of her feats, and of them I will only mention one. The overseer of her parish desired her to take one of the children, which was very unwell down to the Aberystwyth Infirmary (she called it 'Spencery') where she remained for a week. One of the officers desired her one morning to leave the Infirmary, as the child was much better. She started from Aberystwyth at 10 a.m., with the child (aged three years), and she had also an infant about twelve months. She carried one on her back and the other  in her arms as far as Pantyfedwen, without any rest on the road, and completed the journey in four hours . . .  She was the mother of twenty-one children, grandmother of eighty-five, and great grandmother to twenty-one. She never made use of tea and coffee and foreign provisions, only part-taking of milk, and broth of all kinds, and she smoked a good lot of tobacco in her time. Old Mary Williams was baptised in the River Teifi, by the late eminent minister, the Rev Robert Roberts, Pontrhydfendigaid and Swyddffynnon, when she was about twenty-seven years of age.


Mrs Williams had lived for many years past at Pantyfedwen (mwy na thebyg mai yn un o'r adeiladau oedd yn gysylltiedig a'r prif adeilad), the property of Mr J.Maurice Davies, of Antaron, Aberystwyth, having been attached to Mrs Davies' family since her childhood.

Nodiadau