A gentleman as eminent for his talents as he was for the principles which guided them . . . He was bred to the law, which his comprehensive mind obtained a thorough insight into, in a degree few men could equal. The clearness and perspicuity of his genius, and his manner of expressing himself, were the admiration of every one who consulted him . . . his peculiar eloquence caused him to be a fascinating companion in whatever society he intermixed . . . being a man endued with the soundest virtues, talents, and integrity ; and indefatigable in the transaction of any business which engaged his capacious mind.

 . . (James Lloyd) hath demised granted to farm let . . . all that messuage or tenement which may hereafter be know by the name or Sign of the Trout or Tafarn y Brithill (sic) and now in the tenure or occupation of the said Gwen Edward and Edward Richard situated . . . in the village of Ystradmeiric . . . together with all shops, cellars, sollars, chambers, rooms, lights (ffenestri?), easements, ways, passages, waters, watercourses, stables, outhouses, gardens, profits, commodities and appurtenances whatsoever (belonging or in any way appertaining) to the said messuage or tenement belonging or in any wise appertaining in as large and ample a manner as the same is now held, occupied and enjoyed by the said Gwen Edward and Edward Richard . . . also as much ground as the said Gwen Edward and Edward Richard shall think fit and convenient to build upon within the aforesaid village of Ystradmeurig and also grass or pasture for one horse upon the Rock of Ystradmeuric and upon the Demesne of Ystradmeuric and also grass or pasture for two cows and the herding thereof upon the said Rock and Demesne. To have and to hold the said messuage or tenement and all and singular the premises herby demised with the appurtenances . . . unto the said Gwen Edward and Edward Richard, their undertenants and assignor for and during the term of the said Gwen Edward and Edward Richard’s natural life and the longest liver of them.

Deil Osborne Jones [14] fod James Lloyd a Edward Richard yn gyfeillion oes. Mae’n hawdd credu hynny, roedd y ddau â’u gwreiddiau yn yr  un filltir sqwâr [15], ac mae nifer o gyfeiriadau yng ngweithiau Edward Richard sy’n crybwyll cyfeillgarwch agos iawn rhyngddynt. Yn 1751, prydlesodd James Lloyd ddarn sylweddol o dir, a nifer o adeiladau gan gynnwys tafarndy pentref Ystradmeurig i Edward Richard a Gwenllian ei fam. Roedd y brydles i barhau am oes Edward Richard, neu am oes ei fam pebai i Edward Richard farw o’i blaen. Mae dyddiad y brydles o ddiddordeb. Ychydig cyn iddi gael ei chofrestri, bu Thomas Richard, tad Edward Richard farw [16], ac mae’n weddol sicr bod cytundeb yn bodoli cyn hynny, rhwng Thomas Richard a theulu’r Lloydiaid yn Ffosybleiddiaid. Rhyw fater o adnewyddu ac ail-strwythuro pethau yn sgil marwolaeth y pen-teulu oedd y brydles a, hefyd, sicrhau, yn ddeddfol, dyfodol ei ddibynyddion. Ceir disgrifiad manwl o’r hyn sy’n cael ei brydlesu  :

James Lloyd (1721-1800) oedd y person olaf o deulu’r Lloydiaid (un o deuluoedd hynaf Ceredigion) i fyw yn Ffosybleiddiaid, Swyddffynon. Ar ôl priodi, symudodd i gartref ei wraig yn Mabws, Llanrhystud ac fel James Lloyd o Mabws y’i galwyd ef ar ôl hynny. Bu’n disgybl yn Harrow cyn dechrau ei yrfa yn dilyn y gyfraith ac, yn ôl hanes, roedd yn berson arbennig ; dyn galluog, parchus a mawr ei ddylanwad ar draws Ceredigion, a thu hwnt [13] :

. . . James Lloyd of Ffôs y Bleidded in the County of Cardigan Esqr. on the one part, and Gwen Edward widow and Edward Richard Schoolmaster of the parish of Spytty Ystradmeuric in the said county on the other part.

Un dogfen sy’n dal sylw yn syth yw prydles a gofrestrwyd ar 13eg o Fedi 1751 [11,12] rhwng :

Prydles rhwng James Lloyd o Ffosybleiddiaid a Gwenllian Edward a Edward Richard

Ychydig dros ddeng mlynedd ar ôl i Osborne Jones ysgrifennu yr uchod, cofrestriwyd  gweithredoedd a dogfennau yn ymwneud ag eiddo teuluoedd Herbert a Hughes o Hendrefelen (1546-1885 [10]. Adfail yw Hendrefelen heddiw, ond yn nyddiau Edward Richard roedd yn un o dai bonedd plwyf Ysbyty Ystwyth ; saif rhyw ddwy, neu ddwy fillitir a hanner, o Ystradmeurig.  Ymhlith cofnodion archifol Hendrefelen, ceir mân ddogfennau yn ymwneud ag eiddo Edward Richard a’i rieni, a’r nod yma yw ychwanegu at yr hyn a wyddys am y teulu drwy archwilio’r rhai mwyaf perthnasol.

Chwarter canrif ar ôl marw Edward Richard, ysgrifennodd John Williams adroddiad byr am fywyd ei ragflaenydd [7]. Dywedodd bod Edward Richard yn byw o fewn ergyd carreg i eglwys Ystradmeurig, ond ni ddatgelodd yn hollol ble. Awgrymodd Osborne Jones yn1934 [8] y gallai fod o dan iard yr ysgol, ar y dde i’r ffordd i Aberystwyth. Ond erbyn 1950, roedd wedi newid ei feddwl, ac mewn erthygl yn y Welsh Gazette [9], barnau mai’r Henblas (sydd ar ochr y ffordd i Swyddfynnon) oedd cartref Edward Richard. Roedd ei ddadl a’i resymeg yn gredadwy iawn, ac mae’n werth dyfynnu rhan o’r hyn a  ysgrifennodd :

Enw‘r tŷ a adeiladwyd gan John Williams (‘Yr Hen Syr’ fel y’i galwyd ef) oedd Bronmeurig. A dyna enw’r tŷ heddiw, a bu (yn ôl y ffurflenni cyfrifiad), yn gartref i bob prif-athraw a ddilynodd John Williams, i fyny hyd nes y diddymwyd yr ysgol yn 1972.

Edward Richard lived in a small thatched cottage, and sold ale to within three years of his death.  Mr (John) Williams who succeeded Mr Richard at the free School has built himself a good House out of the stones collected from the ruins of Ystradmeurig Castle.

Ganed Edward Richard yn Ystradmeurig ym mis Mawrth 1714 [5].  Ei dad oedd Thomas Richard, a dywedir mai ef oedd teiliwr y plwyf. Dywedir hefyd bod  ei fam, Gwenllian, yn cadw tafarn,.ac mai tafarndy oedd cartref y teulu, er i Water Davies (Gwallter Mechain), nodi yn 1802 [6] :

. . . all that we have is what little he chose to preserve. Of the rest, songs of his youth and cynghanedd verse of his maturity, he left no trace . . . when he died.

Tudalen 1

Adnabyddir Edward Richard fel ysgolfeistr, ysgolhaig a bardd. Sefydlodd ysgol enwog yn Ystradmeurig, ac efe oedd un o arloeswyr cyntaf addysg uwch yng Nghymru. Fel ysgolhaig, roedd yn hyddysg yn y clasuron, ac fel bardd, cyfrifir ef fel tad y fugeilgerdd Gymraeg. Ceir beirniadaeth lenyddol o’i waith gan yr Athro Emrys Evans yn y cylchgrawn 'Y Beirniad' [1] a, hefyd, gan Saunders Lewis yn ei lyfr  'A School of Welsh Augustans' [2]. Yn ogystal, gellir darllen am ei hanes fel ysgolfeistr, ac am yr ysgol yn Ystradmeurig mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1934, gan D.G. Osborne Jones [3].


Yn anffodus, mae'r hyn a wyddys am fywyd personol Edward Richard a'i deulu yn brin ac yn fratiog ; ychydig iawn o dystiolaeth ddiogel sydd ar gael. Nid damwain na chyd-ddigwyddiad yw hyn, mae’n siwr mai dyma oedd bwriad Edward Richard.  Yn dilyn ei farwolaeth, ni ddaethpwyd ar draws yr un dyddiadur, na unrhyw bapurau yn ymwneud ag ef na’i deulu. Hefyd, am ei waith llenyddol, dywedodd Saunders Lewis [4] :

Tafarn y Brithyll

Ystradmeurig

Edward Richard

Tudalen 1 Tudalen 2 Tudalen 3 Cynnwys Adref

Ymlaen i’r ail dudalen

Yn sicr, gwnaed cwrw mewn un o’r adeiladau, oherwydd yr arferiad ar y pryd oedd i dafarndai lleol fragu ei diod yn y man a’r lle. Fel rheol, dyna oedd gwaith gwraig y tŷ, ac mae lle i gredu taw Gwenllian Edward oedd gofalwraig yr holl fusnes. Yn naturiol, gellid disgwyl bod gan Dafarn y Brithyll seler hefyd, ond mae Edward Richard wedi ysgrifennu ‘cellars’, sydd yn awgrymu bod mwy nag un ar y safle.

Mae’r tai-allan sydd yn perthyn i Dafarn y Brithyll o ddiddordeb hefyd. Cyfeirir at ‘shops’, ond nid oes dim i ddweud a’i siopau arferol oedd y rhain, neu gweithdai, ynghlwm â rhyw fasnach neu grefft, o bosib, yn gysylltiedig â gwaith Thomas Richard fel dilledydd ; myn rhai ei fod yn cyflogi eraill i weithio iddo.

Mae’r llun yn drawiadol iawn gan fod Ystradmeurig yn edrych i lawr dros Gors Caron, a’r afon Teifi sydd wedi bod yn enwog am bysgota brithyll am ganrifoedd lawer. Gwyddys, hefyd, bod Edward Richard yn hoff o bysgota Llynnoedd Teifi, a gellir dychmygu clamp o lun brithyll braf ar wal y dafarn neu yn hongian dros y drws.

a

www.hanesybont.co.uk

Tafarn y Brithyll Ystradmeurig Gwenllian Edward Edward Richard

(Argraff arlunydd)

Rhagair

Yr Hen Syr’

Hawlfraint © Llgc

Henblas heddiw (2014)

John Williams

. . . Lewis Morris had two sons under Richard at School. They were quite evidently boarded by Richard in his house and Morris paid Richard £12 a year (for their tuition and keep). There is reason to believe that other boys were also boarded at the master's house . . . Richard's mother had the care of the boarders and she had a housemaid to assist her ; (she) also kept an inn and ran the house for her son. Taverns, I am well informed, in those days, were, in these areas at least, rather big houses. Now the house at Henblas, a fairly old building, is capacious and it is known that a tavern was kept there at the latest around the commencement of the 19th century, and inns are, generally speaking, establishments of long standing. In default of better established claims, I would incline to the view . . . that Richard's home was more probably at the present Henblas in the face of it being at the material times a tavern and the fact that Richard kept boarders.

Tudalen 1 Tudalen 2 Tudalen 3 Cynnwys Adref

Yn amlwg, fel sydd wedi ei ddatgan yn barod, roedd teulu Edward Richard yn cadw tafarn rywle yn Ystradmeurig, ac mae’n rhesymol derbyn mai’r tafarndy hwn oedd cartref y teulu. Yr hyn sydd yn newydd ac yn ddiddorol yw’r enw, sef ‘Sign of the Trout’ neu ‘Tafarn y Brithyll’. Mewn cyfnod pan oedd y mwyafrif o’r boblogaeth yn anllythrennog, yr arfer oedd defnyddio llun i arddangos tŷ tafarn, ac o ganlyniad cyfeiriwyd at y lle fel ‘Sign of beth bynnag oedd y llun’. Yn amlwg mai llun brithyll oedd yn Ystradmeurig a, mwy na thebyg, y cyfeiriai’r bobl leol (y mwyafrif yn uniaith Gymraeg) at y lle fel ‘Sein y Trout’ neu efallai ‘Sein y Trowtyn’ [17].

Llyn Teifi a tarddiad afon Teifi yn amser Edward Richard [18}