Cynhaliwyd y cyfrifiad gwladol cyntaf yn 1841, ac ar flaen ffurflen plwyf Ystradmeurig mae’r ‘Henblas’. Ar y pryd, roedd yn gartref i ddau deulu (or un tylwyth), un, yn ôl y ffurflen, yn byw yn ‘Henblas’ a’r llall yn ‘Part of Henblas’. Noson y cyfrifiad cofnodwyd pymtheg o unigolion yn aros yno, yn cynnwys pump o blant, tri gwas a phedair morwyn. Dim ond pedwar tŷ arall oedd wedi eu cofrestri yn y pentref, hynny yw, oddi fewn cylch o ryw gan llath ar hugain o ddrws yr eglwys. Y tŷ uchaf i‘r gogledd oedd ‘Pendre’ a’r tŷ isaf i’r de oedd ‘Henblas’.  Mae’n siwr bod y pentref rywbeth yn debyg yng nghyfnod Edward Richard ; mae’n amhosib dychmgu ei fod yn llawer llai neu fwy yr amser hynny.

Yr enw nesaf ar y ffurflen, ar ôl ‘Henblas’, oedd  ‘Castle Inn’, ac mae’n rhesymol disgwyl bod y ddau adeilad hyn yn sefyll, os nad ochr yn ochr, yn weddol agos yw gilydd. Dynes o'r enw Maria Williams oedd y tafarn-wraig, a'r ‘Castle Inn’ oedd yr unig dŷ  tafarn yn y pentref, a hefyd yn y plwyf. Os derbynnir bod Ystradmeurig heb newid llawer ers dyddiau Edward Richard, yna mae’n deg credu mai dyma oedd, unwaith, Tafarn y Brithyll. Ond ble yn union oedd ‘Castle Inn’?


Erbyn cyfrifiad 1851, roedd rhai newidiadau wedi cymryd lle, ond yr un teuluoedd oedd yn byw yn y cylch. O ddiddordeb yw bod Maria Williams a'i theulu wedi symud i ochr arall y pentref i agor tafarn newydd, a’i alw yn ‘College Arms’. Dim ond un teulu oedd yn byw yn yr ‘Henblas’ erbyn hyn ; roedd yr ail deulu wedi symud i dŷ cyfagos o’r enw ‘New House, Ystradmeurig’. Nid oedd sôn am ‘Castle Inn’ yn y cyfrifiad, ac mae'n siwr mai’r ‘Castle Inn’ wedi ei addasu fel anedd-dy oedd y ‘New House, Ystradmeurig’. Yn ôl pob golwg, er nad oes tystiolaeth bendant,  bu rhaid i Maria Williams symud i wneud lle i ail deulu'r ‘Henblas’.

Deng mlynedd yn ddiweddarach, yn 1861, roedd teulu ‘New House, Ystradmeurig’ wedi gadael y plwyf, ac mae'n amlwg bod y ‘New House Ystradmeurig’ wedi ei addasu unwaith eto i fod yn ‘New Shop’, gyda David Davies o Llanddewibrefi fel ‘shop-keeper’. Bu yno am dros ddeng mlynedd fel ‘Grocer and Draper’ a hefyd yn cadw 'lodgers' a 'boarders'.

Erbyn cyfrifiad 1881, roedd y siop wedi newid dwylo. Gŵr o'r enw Solomon Tregoning o Redruth a'i wraig Jane, o blwyf Gwnnws, oedd y bobl newydd. Cofrestrwyd Solomon Tregoning fel arolygwr ffyrdd (road surveyor), ond yr hyn sydd o bwys yn y cyd-destun presennol, yw y gall un aelod o hen deulu parchus Ystradmeurig [27] gadarnhau mai Bronllan (tŷ preifat heddiw) oedd siop Tregoning. Mae’n dilyn felly, mai dyma’r fan lle safai y ‘Castle Inn’ yn 1841, ac mae’n rhesymol, hefyd, i hawlio mai  dyma lle safai Tafarn y Brithyll nôl yn y  ddeunawfed ganrif.

Nid oes unrhyw beth anghyffredin yn yr amodau a amlinellir yn y brydles.  Mae’r cytundeb wedi ei gofnodi’n fanwl mewn iaith gyfreithiol gymwys, ond mae’n glir bod y telerau yn hael :

. . . paying . . . the yearly rent or sum of twenty shillings . . . But if the said Gwen Richard and Edward Richard . . . shall at any time think fit to keep no cows upon the said premises then they shall pay but ten shillings yearly during the said term at May and Michaelmas by even and equal portions.

. . . (he was) in his youth, very much addicted to wrestling, throwing the bar, and the chase . . . (and) . . . for all of these diversions there was ample opportunity in the neighbourhood.

Unrhyw berchennog oedd yn trosglwyddo ei eiddo i berson arall am gyfnod amhenodol megis hyd bywyd (les-ddaliad am oes), roedd, i bob pwrpas, yn cyflwyno i’r person hwnnw/honno ystad rydd-ddaliol (freehold). Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch hyd y ddeiliadaeth, rhaid oedd, fel arfer, i'r prydlesydd dalu un swm sylweddol, ond ar ôl hynny, dim ond rhent isel yn flynyddol. Fel y disgwylir, bach oedd y rhent am Dafarn y Brithyll, ond yn annisgwyl, nid oes sôn  am yr un taliad mawr yn y brydles. Hefyd, ychydig yn annisgwyl, mae’n amlwg mai Edward Richard ysgrifennodd y ddogfen [25], er mai James Lloyd oedd ‘gŵr y gyfraith’. Hwyrach bod hyn oll yn awgrymu mai dau gyfaill sydd yma, a bod ganddynt lwyr ymddiriedaeth yn eu gilydd. Ychydig cyn iddo farw, ewyllysiodd Edward Richard ei holl feddiant i'w  ysgol, ag eithro un eiddo sylweddol, sef y felin yn Swyddffynnon. Dyma eiriau John Williams [26] eto :

. . . he gave a mill, which he had lately purchased, to his early and constant friend, James Lloyd of Mabws, Esq as a token of his friendship, and a remuneration for the frequent and gratuitious assistance which he had given him, in the line of his profession.

Er mor ddiddorol yw cynnwys y brydles, yn anffodus, nid oes ynddi wybodaeth bendant ynghych lle y safai Tafarn y Brithyll. Gwyddys y safai rhywle ym mhentref Ystradmeurig yn agos i’r eglwys, ond ble?

Yn ôl pob golwg, parhaodd y chwarae a’r cystadlu yn Ystradmeurig tra bu Edward Richard byw ; cyfaddefodd y Parchedig Thomas Jones Creaton (efenygylwr enwog yn ei gynod) ei fod, pan yn ddisgybl yn ysgol Edward Richard (o 1765 i 1774), yn well ymgodymwr nag ysgolhaig  [19, 20].

Mwy na thebyg, mai prif fwriad Daniel Rowland oedd darbwyllo Edward Richard i ymuno ag ef i roi terfyn ar yr arferion dirywiedig y Sul. Roedd yn gam beiddgar gan Daniel Rowland, gan fod y ddau ohonynt ymhell o fod yn rhannu’r un daliadau, nac yn ben-ffrindiau.  Yn wir, ymateb gwŷr llenyddol y cyfnod (gan gynnwys Edward Richard) i Daniel Rowland oedd ei bardduo a’i watwar.

Wrth gwrs, i’r anghydffurfwyr, ac i Daniel Rowland (y Diwygiwr o Langeitho) roedd rhialtwch y Sul, chwaraeon y diafol fel y galwyd hwy, yn bechadurus ac yn annuwiol, a diddorol yw nodi bod i Edward Richard a Daniel Rowland, yn ôl traddodiad lleol, gwrdd unwaith yn nhŷ bonedd Hendrefelen [22].

Os yw’n wir iddynt gwrdd, mae’n siwr mai anghytuno a wnaethant ar fwyafrif o faterion, ag eithro, os credir y sïon lleol, ymladd ceiliogod. Fel mab a pherchennog Tafarn y Brithyll, roedd Edward Richard, yn sicr, yn hen gyfarwydd â’r ymarfer, ac yn siwr wedi ymuno â’r gwylwyr lawer gwaith yn ystod ei oes.Ond mae’n bosibl, fel yr oedd yn mynd yn hŷn, bod creulondeb y gornestau yn ei boeni ychydig, a hwyarch iddo ddymuno, yn ddiffuant, bob llwyddiant i Daniel Rowland yn ei wrthsafiad i’r arfer, ond mae’n anhebyg iddo gytuno i ymrymo ei hun i unrhyw ymgyrch i gondemio’r adloniant. Ni cheir yr un awgrym yn ei waith llenyddol bod chwaraeon a phleserau ei gyfnod yn peri unrhyw ofid iddo, ond, ar y llaw arall, ysgrifennodd, ar adegau, yn llym a dirmygus am y diwygwyr Methodistaidd a’u cred.

Roedd yn arfer, yn y ddeunawfed ganrif, i bobl y plwyf  a'r ardal ymgynull ar y Sul i chwarae a chystadlu yn y gwahanol gampau oedd mewn bri ar y pryd. Cynhelid rhain, naill ai ar dir yr eglwys, neu mewn tafarn cyfagos a chan bod Tafarn y Brithyll gyferbyn a eglwys y plwyf, mae’n sicr, mai Tafarn y Brithyll oedd canolbwynt bywyd cymdeuthasol y gymuned.  Gellir dychmygu bod cymeriad Edward Richard wedi ei lunio, i raddau helaeth, gan ei gefndir, a dywedir ei fod, yn ei arddegau, a llawer mwy o diddordeb mewn chwareuon na addysg a llyfrau [19].

. . . good company he liked, good food and good wine . . . and we can well picture friends of Richard’s calling on him and being entertained with good fare ; for he liked his friends to stay with him, and he sometimes mentions this in his letters

Tafarn y Brithyll a phleserau’r ddeunawfed ganrif

‘The Cockpit’ gan William Hogarth

Daniel Rowland

(1713-1790)

Fel canolbwynt y gymuned, gellir dychmgu bod Tafarn y Brithyll yn le prysur a swnllyd weithiau, a hyd yn oed yn derfysglyd ar ddyddiau fel Ffair Gwŷl Iwan, ac ambell i Sul pan fyddai ceiliogod gorau’r cyffiniau yn cystadlu. Ond mae’n siwr bod ochr arall i Dafarn y Brithyll, a bod iddo fwy na chwrw a chwaraeon. Gwelir cyfeiriadau yn y brydles at 'chambers, 'rooms', ‘lights’ (ffenestri?) a 'stables'  sy'n awgrymu bod cyfleusterau ar gael i gynnig llety a lluniaeth i gwsmeriaid a'u disgwyliadau ychydig yn fwy uchel-ael na’r cyffredin.

Roedd gan Edward Richard berthynas agos gyda llawer o deuluoedd  bonedd a chlerigwyr ar draws y Sir, ac mae’n hawdd dychmygu, er enghraifft, bod y Llys Chwarter yn cynnal rhai o’i sesiynau yn Ystradmeurig. Gwyddys fod ganddo hefyd gysylltiadau a nifer o wŷr llên ac y byddai yn eu gwahodd i aros yn Ystradmeurig ; roedd yn hoff o [23] :

Rhaid bod rhedeg Tafarn y Brithyll yn hawlio amser a egni, ond nid dyma oedd unig fenter y teulu.; roeddent yn ymwneud a nifer o wahanol weithgareddau, Ar ôl marw ei fam, aeth Edward Richard ymlaen i redeg Tafarn y Brithyll ar y cyd a sawl menter arall. Dilynodd ddiddordebau masnachol ei dad [24] yn ogystal a sefydlu, a chynnal ysgol breswyl, ac mae’r hyn a ewyllysiodd i’r ysgol yn dyst o’i lwyddiant ym myd busnes. Hefyd, roedd ganddo dyddyn i ofalu ar ei ôl, ac mae’n ymddangos ei fod yn perchen mwyafrif o’r adeiladau ym mhentref Ystradmeurig, ond mwy am hyn nes ymlaen. Heb amheuaeth, roedd yn ddyn prysur ac aml-dalentog.

Amodau a Thelerau y brydles

Ffurflenni cyfrifiad (1841-1881)

Yng ngyfrifiad 1871, roedd y ‘New Shop’ wedi newid ei henw i ‘The Shop’, ac ar noson y cyfrifiad  roedd tri-ar-ddeg o bobl yn cysgu yno, gan gynnwys tri 'scholar at the grammar school', un 'school master' a dwy forwyn.  I letya tri-ar-ddeg o bobl, rhaid bod ‘The Shop’  yn adeilad sylweddol. Wrth gwrs, nôl yn 1871, gallau tai allan (rhai ar wahan i’r tŷ byw, ond ar yr un safle) gael eu defnyddio fel ystafelloedd cysgu. Ond rhaid bod gryn dipyn o le yn y tŷ ei hunan ; yn 1911, cofrestrwyd wyth ystafell, heb gyfrif ystafell y siop. Tybed a’i dyma’r man, os nad yr adeilad, y bu disgyblion Edward Richard yn lletya unwaith?

Bronllan heddiw


Mae’n rhaid nodi hefyd bod gan dŷ Bronllan glamp o seler [28], sydd yn rhoi ychydig mwy o hygrededd i’r datganiad uchod. Ond heddiw, adeilad Fictoraidd sydd i weld ar gornel y ffordd i Aberystwyth, ac mae’n rhaid bod ail-adeiladu wedi cymryd lle rywbryd, ond ar safle (ac o bosib sail) yr hen Dafarn y Brithyll.

Tudalen 2

Edward Richard

Ystradmeurig

(1714 -1777)

Hendrefelen heddiw (2014)

a

Tafarn y Brithyll

Edward Richard

(Argraff arlynudd)

www.hanesybont.co.uk

Ond yn ddiamau, un o bleserau mwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif oedd ymladd ceiliogod. Apeliai at bob rheng o wylwyr, y sgweieriaid, clerigwyr a’r tlodion, i gyd fel ei gilydd, a chynhelid y gornestau hyn, fel arfer, ar ierdydd a buarthau tafarndai gwledig. Roedd betio ac yfed yn rhan amlwg o'r difyrrwch.

Mae nifer o gyfeiriadau yn awgrymu bod Ystradmeurig a Thafarn y Brithyll yn chwarae rhan bwysig yn adloniant yr ardal [gwelir 19 a 20]. Hawdd credu hyn. Safai Tafarn y Brithyll o fewn ergyd carreg i eglwys y plwyf ac  roedd yn  arferiad cyffredin i gynnal ymladd ceiliogod unwaith y mis ar ôl gwasanaeth y Sul. Hefyd, roedd Ystradmeurig wedi ei sefydlu ar groesffordd oedd yn gyfleus i bobl ddod at ei gilydd o bob cyfeiriad - y dwyrain, gorllewin, de a'r gogledd.  

Er nad oes tystiolaeth bendant, mae’n sicr bod gan Dafarn y Brithyll dalwrn pwrpasol ar gyfer ymladd ceiliogod. Gwyddys bod Thomas Richard (tad Edward Richard) ac Edward Richard yn ddynion busnes craff, ac mae'n siwr y byddent wedi manteisio ar y cyfle i ddenu pobl yn rheolaidd i yfed a bwyta yn Nhafarn y Brithyll. Mae'n reit debygol, hefyd, bod gan Dafarn y Brithyll dalwrn gwell na'r cyffredin ; roedd y teulu 'Richard' yn troi ymysg 'byddigions' gogledd Ceredigion ac mae'n rhesymol credu bod pobl o bob tras yn mynychu gornestau Ystradmeurig o dro i dro.

Gellir dychmygu bod gan Dafarn y Brithyll lwyfan crwn pwrpasol i’r ceiliogod frwydro, a hwnnw wedi ei hanner amgylchu gan ryw fath o falconi cyntefig er mwyn i'r gwylwyr mwyaf pwysig eistedd o dan do. Mae'n ddiddorol gweld y gair 'sollars' yn y brydles ; mae'n medru golygu balconi, llawr uchel neu lwyfan [21], ac mae’n bosibl bod Edward Richard yn cyfeirio yn y brydles at ryw adeilad pendant lle cynhelid yr ymladdfeydd hyn ar y Sul.

Ymlaen i dudalen 3

Mae’r eglwys, rhyw hanner can llath i ffwrdd

(ar y dde i ffordd Aberystwyth)