Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, apwyntiwyd Gwallter Mechain i adolygu cyflwr amaeth yng Nghymru. Fel rhan o’r arolwg, ymwelodd a Cheredigion yn nhymor yr haf 1802. Er nad oedd addysg yn rhan o’i briff, mae’n siwr iddo, ar ôl cyrraedd ardal Tregaron, alw ar John Williams yn Ystradmeurig. Roedd y ddau yn ysgolheigion o fri ac yn rhannu llawer o’r un diddordebau, a gwyddys bod gan Gwallter Mechain gryn ddiddordeb yn ysgol Ystradmeurig. Mwy na thebyg mai John Williams dywedodd wrth Gwallter Mechain am Bronmeurig a, hefyd, am Edward Richard a'r 'small thatched cottage'. Felly, mae nodiadau Gwallter Mechain yn debygol o fod yn gywir.
Yn adroddiad John Williams am ei gyn-
Gwyddys bod Edward Richard, pan oedd yn ŵr ifanc, wedi treulio nifer o flynyddoedd yn addysgu a myfyrio ar ben ei hun am, o bosibl, bump i chwech mlynedd. Yn ol Osborne Jones [30].
. . . below the present school-
Er iddo newid ei feddwl cyn 1950, mae'n debygol bod Osborne Jones yn agos iawn i’w le yn y man cyntaf, a theg i’w casglu bod y bwthyn yn sefyll ar draws y ffordd i Dafarn y Brithyll, rhyw bymtheg llath neu lai i ffwrth, a gellir dychmygu bod drws talcen y tŷ yn hyrwyddo’r mynd a dod rhwng y ddau adeilad. Safai’r eglwys tua deugain llath o gefn y bwthyn (ergyd carreg), a rhyw gan llath o’r fan lle mae’r Henblas i’w weld heddiw..
Yn absenoldeb gwybodaeth pellach a mwy pendant, cyflwynir y casgliadau canlynol fel rhai sydd yn weddol gywir a dilys :
To acquire the knowledge of the Classics, which Richard undoubtedly had in order to fit himself to train youths for the professions, would, it is suggested, take at least four years. If we add to this the acquisition of a knowledge of Theology . . . training in Mathematics and other subjects, it is not unlikely that he studied for five to six years.
Fel sydd wedi ei ddweud eisioes, awgrymodd Osborne Jones [8] yn 1934 (ar sail yr hyn a glywoddd gan oedolion yr ardal) bod tŷ Edward Richard wedi ei leoli :
Rhai casgliadau terfynol
1 |
Er mor gredadwy yw honiad Osborne Jones mai’r Henblas oedd cartref Edward Richard, nid oes un tystiolaeth yn ei gysylltu a’r lle. Yn anffodus, ychydig iawn a wyddom am yr Henblas. Ceir rhyw syniad yng nghyfrifiad 1841 ei fod yn dy amlwg yn yr ardal, yn hen adeilad wedi bod, efallai, yn gartref i deuluoedd o radd uwch na’r cyffredin.
Ar y llaw arall, nid oes sicrwydd bod yr Henblas yn bodoli yn amser Edward Richard, ond os derbynir ei fod, yna mae’n bosib mai un o gyfoedion teulu Edward Richard o’r enw Hugh Rice oedd yn byw yno ; gweler y nodyn islaw [31]. |
2 |
Rhedai Gwenllian, mam Edward Richard, dŷ tafarn yn Ystradmeurig o’r enw Tafarn y Brithyll. Roedd yn rhan o’i heiddo ar brydles, a safai’r ar ochr chwith y ffordd i Aberystwyth, lle mae tŷ Bronllan heddiw, ac mae’n debygol mai dyma’r lle bu disgyblion preswyl Edward Richard yn lletya yn ystod eu hamser yn astudio yn yr ysgol. |
3 |
Cartref Edward Richard oedd bwythyn bach tô gwellt, wedi ei leoli ar draws y ffordd i Dafarn y Brithyll, o dan iard yr hen ysgol. Roedd Edward Richard yn byw ar ben ei hun, yn anibynnol, ond bod ei fam, tra roedd hi byw, yn ‘cadw tŷ’ iddo. Ar ol iddi farw, mae’n debyg bod ganddo ‘wraig ar dal’ yn gofalu am ei anghenion bob dydd [32]. |
4 |
Oddi- |
Nodiadau
1 |
D. Emrys Evans, Y Beirniad, Cyfrol VII, 1917, tud 252 |
2 |
Saunders Lewis, A School of Welsh Augustans, Cedric Chivers, Bath, 1924, tud 55. |
3 |
D.G.Osborne- |
4 |
Sauders Lewis, A School of Welsh Augustans, Bath, 1924, tud 56. |
5 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Bywgraffiadur Cymraeg. |
6 |
Gwallter Mechain (Walter Davies), A tour in South Wales (1802), LL.G.C. Llawysgrif 1730B. |
7 |
Yr Eos : sef gwaith prydyddawl Mr Edward Richard o Ystradmeurig yn Sir Aberteifi, Llundain, 1811. Mae yn y Llyfrgell Ganolog Caerdydd gopi unigryw o’r llyfr hwn ; dyma’r unig gopi lle mae'r rhagair (adroddiad byr o fywyd Edward Richard) wedi ei lofnodi, mewn inc, gan yr awdur, sef John Williams, olynydd Edward Richard. Cyfeirir ato fel ‘Yr Hen Syr’ a bu’n brifathro ar yr ysgol yn Ystradmeurig o 1777 i 1818. |
8 |
D.G.Osborne- |
9 |
D.G.Osborne- |
10 |
D Emrys Williams, Llgc, Archifau a Llawysgrifau, Llawysgrifau Hendrefelen, 1961. |
11 |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau a Llawysgrifau, Llawysgrifau Hendrefelen, 1751, Rhif 236. |
12 |
Cyfeirir at mam Edward Richard fel Gwen Edward, widow. Mae'n ymddangos, naill ai ei bod wedi cadw ei henw teuluol ar ôl priodi Thomas Richard, neu iddi newid nôl i’w henw teulu yn dilyn marwolaeth ei gŵr. Mae’n ddiddorol sylwi bod Edward Richard wedi etifeddu enwau teulu ei dad a’i fam. |
13 |
William Owen Pughe, Cambrian Register, Cyfrol 3, p 221- |
14 |
D.G.Osborne- |
15 |
Fel yr hêd y frân, roedd Ffos y Bleiddiaid rhyw filltir o Ystradmeurig, ond ychydig o dan dwy filltir i gerdded o un lle i’r lall |
16 |
Bu Thomas Richard farw rhywbryd tua diwedd 1750 neu dechrau 1751 pan oedd yn ei chwedegau. Gwaith heb ei gyhoeddu gan yr awdur. |
17 |
Gan fod y rhan fwyaf o bobl yn anllythrennog yn y ddeunawfed ganrif, nid oedd llawer o bwynt mewn arddangos enw, felly byddai rhaid defnyddio llun. Yna’r arfer, yn aml, oedd cyfeirio at y dafarn fel 'Sign of the Trout' (neu beth bynnag fyddai'r llun) yn hytrach na defnyddio'r enw 'The Trout' |
|
(Mae’n bosibl, gan bod Edward Richard yn ysgrifennu yn Saesneg, ei fod hefyd wedi cyfieithu’r enw ; mwy na thebyg bod pobl Ystrameurig a’r cylch yn dweud ‘Sein y Brithyll neu ‘Sein y Trowtyn’ - |
18 |
J.G. Wood, Principal Rivers in Wales, London, 1813, p145 |
19 |
E D Evans, Y Parchedig Thomas Jones, Creaton (1752- |
20 |
Roedd chwareuon y Sul yn boblogaidd ym mhob ardal o’r Sir, ac mae’n ddiddorol nodi bod Daniel Rowland, yn ystod y blynyddoedd cynnar o’i weinidogaeth yn Llangeitho (cyn ei droedigaeth) yn ymuno yn gyson a’u gyd- |
21 |
Frederick Smith, Coventry : six hundred years of municipal life, The Corporation of the City of Coventry in association wth Coventry Evening Telegraph, 1945, tud 15. |
22 |
D.G.Osborne- |
23 |
D.G.Osborne- |
24 |
Er engraifft, ceir tystiolaeth bendant yn rhai o lawysgrifau Hendrefelen, bod Thomas Richard a Edward Richard yn delio mewn eiddo a benthygiadau morgeisiol. |
25 |
Nid yw llofnod James Lloyd yn cydweddu a’r ysgrifen yn y brydles. Ar y llaw arall, mae’n amlwg bod arwyddnod Edward Richard yn hollol gyson a llawysgrifen y person a ysgrifennodd y ddogfen. Hefyd,mae’n gyson â’r ysgrifen a geir mewn dogfennau eraill gan Edward Richard. |
26 |
John Williams, Yr Eos, Llundain 1811. |
27 |
Sgwrs preifat a Mrs Mari Osborne Arch, nith i D G Osborne Jones |
28 |
Sgwrs preifat a Mrs Mari Osborne Arch, nith i D G Osborne Jones. |
29 |
John Williams, Yr Eos, Llundain 1811. |
30 |
D.G.Osborne- |
31 |
Ymddengys llofnod Hugh Rice fel tyst yn nifer o ddogfennau cyfreithiol yn ymwneud â Thomas Richard a Edward Richard. Hefyd, mae’n ymddangos mai Edward Richard ysgrifennodd ewyllys Hugh Rice, sy'n awgrymu bod perthynas agos rhyngddo ef a theulu Tafarn y Brithyll. Ef oedd ficer Gwnnws, Ystradmeurig a Lledrod ac mae'n demtasiwn i feddwl ei fod yn byw yn agos i un o'i eglwysi, a lle gwell na'r Henblas sydd yn dŷ sylweddol, ac yn mwynhau un o'r golygfeydd gorau'r ardal, yn edrych i lawr dros ehangder Cors Caron a'r afon Teifi. Ei gymdogion agosaf fyddai Thomas a Gwenllian Richard ac mae'n siwr bod y ddau yn amlwg ym mywyd yr eglwys, fel yr oedd ar y pryd ; fel iwmon, mae'n bosib bod Thomas Richard yn warden eglwys Ystradmeurig. Mae'n ddiddorol nodi bod un o ddisgyblion mwyaf disglair Edward Richard yn ystyried Hugh Rice yn ddyn eithriadol o gybyddlyd. Bu Ieuan Brydydd Hir yn ei gynorthwyo gyda'i ddyletswyddau eglwysig am chwe mis pan oedd yr olaf yn hen ac yn fethedig. Bu'n gweithredu fel ciwrad dros dro, a'r gyntundeb y byddai'n cael ei dalu ar gyfradd o £22 y flwyddyn. Dyma oedd gan Ieuan Brydd Hir i ddweud : . . . poor old man . . . upwards of a hundred years old, and . . . blind (for) upwards of sixteen years . . . He is a downright miser, does not care to part with his money. This unnatural passion, surviving all others, even when it is least of all useful. I shall not be paid the little pittance he owes me till my half year is up. (J H Davies, Cardiganshire Freeholders in 1760, Transactions of the West Wales Historical Society, Cyfrol III, tud 112, 1912- Rhaid ychwanegu mai yn Mynachdy Hen, ger Swyddffynnon, ym mlwyf Lledrod oedd Hugh Rice yn byw pan fu farw, ac felly ni ellir bod yn sicr o’r awgrym uchod. |
32 |
John Williams, Yr Eos, Llundain 1811 |
Edward Richard
Ystradmeurig
(1714 -
Walter Davies (Gwallter Mechain) a’r bwythyn bach tô gwellt
a
Tafarn y Brithyll
Heb os, roedd gan y teulu y cyfoeth i’w gynnal yn ystod y cyfnod hyn, ac fe osododd yntau dasg heriol iddo ef ei hun. Yn ôl nifer o adroddiadau, astudiau yn yr eglwys, ac y gwelid ef yno am bedwar o’r gloch pob bore, ym mhob tywydd, gaeaf a haf, yn ddwfn-