1

Bonedd a chyffredin Cymry,

Dewch yn nes gwrandewch fi’n traethu,

Am hen ŵr oedd yn cadw Tylwyth,

Araf Hwsmon gweddol esmwyth.


2.

Yr oedd yn byw ymlaen Brycheiniog,

Yn ŵr o rinwedd glân Ariannog,

Yn fawr ei barch, yn gryf ei foddion,

A phob tegwch Duw a digon.


3.

Wmffre Jenkins oedd ei enw,

Trwy’r holl wlad yn gymeradwy

Yn byw ar gynnydd rhwng ei genedl

O lwyth Boneddigion Achog uchel.


4.

Daeth deugain punt o arian iddo,

Oedd y maes yn sicr ganddo :

Fe rifai rheini i’w cadw’n gyfan,

Lle gallai rhoddi eilwaith allan.


5.

Fe gyttunodd y ddwy forwyn

A’i was Penna roi’ iddo wenwyn :

Fel y gallent speilio’i goffor

Gwedi ei ddifa a thresio’i drysor.


6.

Hwy roen gwpaned gwenwyn iddo,

Pan ddaeth i’r ty a syched arno :

Ynte’i hyfodd fel gŵr gwirion,

Heb ddim bredych fod y bradon


7.

Yn ebrwydd iawn fe chwyddai’n enbyd,

‘Roedd ganddo Salet Oil Botteled :

Fe ddechreuodd yfed honno

I ddofi’r gwenwyn oedd yn gwynio.


8

Ac a archodd i’r gwas arall,

Gyrchu’i geffyl iddo’n ddiwall,

Fel y gallai ddianc yn ddiysymwyth

Rhag cwpla’i ladd rhwng dwylo’i dylwyth


9.

Pan aeth y gwas i gyrchu’r ceffyl,

Nhwy gyttun’son eill tri’n gynnil

Mae’r ffordd nesa i ddwyn ei fywyd,

Oedd tagu’i geg a hosan wstyd.


10.

A cheisio cadw cylch ei wddwg,

Heb ddim ymlyw i weld yn amlwg,

Fel y gallent dynu eu bwriad,

Gwedi’r mawr ddrwg gelu’r mwrddiad


11.

Fe tafleu’r gwas e’n ebrwydd dano

A’r ddwy forwyn arno’n pwyso,

Nes iddo dagu’n farw i ddigon,

Dyna ortrech trist ar Gristion.


12.

Fe griau Magu, Magu yn oerllyd,

Cei fodd i fyw od cedwi mywyd,

A hithau’n un o’r tri pechadur,

Ar ei frest yn mwrddro’i mheistr

13

A bwrw ei gelain ef ar y gwely,

I ‘stafell fach y maes o’r penty,

Y man lle byddai’n arferedig,

Wrth ei hunan gysgu yn unig.


14

A chlo i’r drws yn ddiogel arno,

O’r tu fewn er mwyn dieithrio,

A chwedyn roddi piler bychan,

I fynd twy dwll y ffenestr allan

15

Fe fu yno ddau ddiwrnod,

Yn ddistaw iawn heb neb yn nabod,

Nes darfod chwilio’i holl gornelau,

Am arian bath a chuddio’i bethau.


16

A’i gwas lleia yn crio hawyr,

O Dduw beth wnaethoch chwi i’m meistr

A hwythau’n hylim yn ei hela

Ai gadw yn galed i fugeilia


17

Daeth Mr Daniel Pryddech yno,

Gwr parchedig call cywyrdro :

Cynta gair a ‘fynnodd iddyn,

Ple mae eich meistr Wmffre Jenkins

18

Hwy ddwedson wrtho i fod yn cysgu,

Er’s dau ddiwrnod ar ei wely,

Nad oedd gan un dyn ffordd i ddeffro;

Eisiau cael y drws yn nadclo


19

Fe redai’n ebrwydd wrth y ffenest,

I wel’d yn esmwyth heb ddim gorchest,

Gweiddi’n bres o flaen ei wyneb,

Ni chadd etto air o ateb

20

Fe ddaeth yno fwyn gym’dogion,

Cwnni’r drws wrth rym trosolion,

Gweld y gwr yn farw yn gorwedd,

A chwydd mawr yn salw ei sylwedd


21

A chael yr allwedd ar y ffwrwm,

Y man lle dodsai’r llofrydd lawdrwm,

Gwas y Diawl yn llawn dichellion,

Gwedi mwrddro ei feistr gwirion.


22

Yn ebrwydd iawn fe gadd ei gladdu,

O achos fod y corff yn gwaethu

‘Doedd neb yn meddwl mewn un moddion,

Fodd i lanas ar ei elynion.

23

Fe gedwyd hyn ddwy flynedd hirion,

Nes i’r ddwy forwyn fynd i ymryson

A’r ferch leia’n traethu’r cwbwl,

I’r llall wenwyno ei mheistr annwl.

24.

Fe drawyd llaw yn ebrwydd arni,

A’i rhoi yn gaeth dan law cwnstebli

Nes cael chwilio’r holl wirionedd

Pwy ffordd y daeth i gael ei ddiwedd.

25.

Pan ddaeth hi o flaen yr wstus gynta,

I wrando tyst y forwyn leia’

Celu’r drwg fe ffaelodd iddi,

O achos bod y gwaed yn gwaedi

26.

Fe rhoed hi ar frys mewn carchar caled,

I aros barn yn ôl ei gweithred

Am iddi roi i’w meistr wenwyn –

Dyna fwriad trist y forwyn.

27

Pan ddaeth i atteb dyddiau’r Sesiwn,

O flaen Barnwyr o Gomissiwn,

Wrth union dyst hi gaed yn euog,

Trwy ddeuddeg gwr wrth far Brycheiniog.

28

Rhoi’r Judge y ferdict iddi grogi,

Yn haner marw cyn ei llosgi,

Fel gallai eraill gymryd rhybydd,

Wrth weithred hona’i throm ddihenydd

29.

A’r trydydd dydd o Fai diwedda

Y rhoed hi dan y pren dioddeddfa,

Mewn pig a llysg hi gadd ei llosgi

Yn ulw mân wrth Aberhonddi.

30

A’r gwas a ffodd o’r wlad yn fuan,

Pan ddatguddiwyd y drwg allan,

Ni wyr un dyn p’le gwnaeth ei drugfa,

Wedi ddilyn ffaelu ei ddala.

31

Aed i Loegr aed i Werddon,

Fyth ni ddianc rhag trallodion,

Cerdded dir a dwr lle gallo,

Mae gwaed ei feistr gwirion arno.

32

Fe ddichon pob darllenydd gofio,

Fod gwaed Abel etto’n crio,

Er dechreu’r byd mae Duw’n cyhoeddi

Pob dirgel lanas i oleuni.

33

Mae’r scrythur lan yn roi rhybyddion

I wach’lyd tywallt gwaed y gwirion

A’r dyn a’i gwnel mae’n byw mewn gofal

Nes del digofaent Duw a dial.

34.

Gwaith Duw sydd yn rhoddi oes a bywyd

A chennad Duw yw’r angau i’n symud,

Cymeryd Gallu Duw o’i ddwylo,

Wnaeth llawer myrdd o’r rhai sy’n mwrddro


35

Mae Satan fyth yn hudo’i weision,

Rhai yn fwrddwyr rhai yn lladron

Ac yn eu harwain i’w eu colli,

Efe yw cynog pob drygioni.

36

Wedi’r Cythrel dwyllo’r dynion,

O drachwant ladd eu meistr gwirion,

Gwnaeth iddynt gwedi’n cymrwn rybudd,

Cyhuddo’n galed ar ein gilydd

37

Duw roddo ras i bob pechadur,

Droi yn ol heb droedio’r llwybr,

A’r dyn arhoso dan ei ewinedd

Caiff drwm madawiad yn y diwedd.

38

Pan edrychwn ar yr union,

Sy’n ofni Duw o brydd-der calon

Mae hwnnw’n dilyn ffordd lwyddianus,

Hyd ei fedd yn dangnefeddus

39

Dilynwn ninnau lwybrau duwiol,

Yn gristionogedd ac yn rasol,

Mae Duw yn addo i’r ffyddlonied,

Borth trugaredd yn agored.

40

Ymrown i ladd pob pechod aflan,

Cyn caffo dorri o’r plysgyn allan,

Rhag iddo fagu ciw anniben

Yn ddibarch i ladd ei berchen.

41

Dyma rybudd i bob Cristion

Wach’lyd trachwant a byw’n union

Rhag cael eu barnu i boen tragwyddol

Am eu drwg i’r ffwrn uffernol.

 Mae'r gân hon gan PhilybThomas yn rhoi hanes sut y lladdwyd Humphry (Wmffre) Jenkins, a sut y llosgwyd

un o'r morwynion am y drosedd.

www.hanesybont.co.uk

Llofruddiwyd

Humphry (Wmffre) Jenkins, Nantstalwen

gan ei was a'i ddwy forwyn

(tua’r flwyddyn 1700)

Cyhoeddwyd, neu ail-argraffwyd y gân yna yn y flwyddyn 1772.


 Copi ar gael yn LL.G.C.