Mae’n debyg mai gwallt coch oedd gan y wraig, sef Gwen Nant-rhwch. Cyfrifid hi yn wraig ddeallus a darbodus dros ben

Yn ôl yr hanes, ym maled Philyb Thomas, cafodd Humphry Jenkins ei lofruddio gan ei was pennaf a’i ddwy forwyn – rhan o gynllwyn y tri i ddwyn a rhannu deugain punt o'i arian a oedd wedi eu cuddio mewn cyst yn y tŷ. Fe gytunwyd i  roi diod gwenwynig i Humphrey Jenkins i’w yfed :

Llusgodd y tri y corff i ystafell wely a chloi y drws o'r tu fewn a, wedyn mynd allan drwy'r ffenestr. Yno y bu Humphrey Jenkins nes i un o’i gymdogion - Daniel Prydderch - alw yn Nanstalwen.  Dywedodd y pen-forwyn fod ei meistr wedi cymryd i’w wely yn sal ac wedi cloi’r drws ac nac oedd neb wedi ei weld am ddeuddydd. Mynnodd y cymydog dorri mewn i’r ystafell i gael golwg drosto ei hun ar gyflwr ei gyfaill. Wrth gwrs, fe ganfu Humphrey Jenkins yn farw ond, ar y pryd, nid amheuodd fod unrhyw ddrwg-weithred wedi digwydd.

Yn wir doedd neb yn ddrwgdybus tan rhyw ddwy flynedd  yn ddiweddarach ar ol iddi fynd yn ffrwgwd rhwng y ddwy forwyn. Mwy na thebyg mai cweryl ynghylch yr arian  oedd yn gyfrifol ond, fel canlyniad, fe aeth y forwyn fach i adrodd stori'r gwenwyn a'r tagu wrth y. Cwnstabliaid. Dihangodd y gwas pennaf ac nis gwelwyd fyth wedyn. Cafodd y forwyn fach bardwn am dystio dros y goron ond defrydwyd y forwyn bennaf i farwolaeth. I gymharu â phethau heddiw, roedd ei thynged hi yn ddidostur a barbaraidd. - ei chrogi nes yn hanner marw  ac yna ei llosgi wrth y stanc.




Yn ol y falad fe'i rhoddwyd ar dan :




hynny yw, mewn tar a chlwm o danwydd yn ulw mân wrth Aberhonddi.

Er y dystiolaeth erchyll  yn y faled, mae'n fwy na thebyg, meddai Glyn Parry [3], fod Magu (dyna ei henw) yn farw  cyn iddi gael ei llosgi.  Yn y ddeunawfed ganrif roedd pawb yn cymryd yn ganiataol fod y dienyddwyr yn rhoi terfyn ar fywyd menywod (drwy eu llindagu) cyn iddynt gael eu bwrw ar y tân. Daeth y dull yma o gosbi i ben yn y ddeunawfed ganrif ac mae'n debyg mai  Magu'r forwyn oedd y ddynes olaf i gael ei llosgi yng Nghymru

  Nodiadau

Fe gyttunodd y ddwy forwyn’

A’i wâs Penna roi’ iddo wenwyn:

Fel y gallent speilio’i goffor’

Gwedi ei ddifa a thresio’i drysor

Tadcu Gwen (a hen hen ddadcu i John Jones) oedd gŵr o’r enw Humphry Jenkins ac roedd ef yn byw yn Nanstalwen yn hanner olaf yr ail ganrif ar bymtheg ac yn ôl baled gan Philyb Thomas roedd [2] :

Yn ŵr o rinwedd glân Ariannog,

Yn fawr ei barch, yn gryf ei foddion,

A phob tegwch Duw a digon

Yn anffodus  i’r cynllwynwyr, ar ôl i Humphry Jenkins gymryd y ddiod, deallodd yn syth fod rhywbeth mawr o le a dyma fe'n yfed potelaid o ‘salad oil’ i ddofi’r gwenwyn :

Yn ebrwydd iawn fe chwyddai’n enbyd,

‘Roedd ganddo Salet Oil Botteled :

Fe ddechreuodd yfed honno’

I ddofi’r gwenwyn oedd yn gwynio.

Ar ôl gweld fod y cynllwyn yn mynd i fethu, fe waeth y troseddwyr ymosod yn gorfforol ar Humphrey Jenkins.  Hyrddiodd y gwas Humphrey Jenkins i’r llawr a chyda help y morwynion, fe’i mwrdrodd drwy dagu’i geg a hosan wstyd. Roedd rhaid iddo ymatal rhag clymru'r hosan am wddwg y dioddefydd  - fe alle hynny arwain i friw gweledig a chreu tipyn o amheuthaeth ynghylch sut y bu i Humphry Jenkins farw :

A cheisio cadw cylch ei wddwg,

Heb ddim ymlyw i weld yn amlwg,

Fel y gallent dynu eu bwriad,

Gwedi’r mawr ddrwg gelu’r mwrddiad

Rhoi’r Judge y ferdict iddi grogi,

Yn haner marw cyn ei llosgi

Mewn pig a llysg hi gadd ei llosgi

Yn ulw mân wrth Aberhonddi

Wrth gwrs, y ddadl dros gosb lem oedd y byddai hyn yn ddigon i ddychryn unrhyw un a fyddai yn ystyried troseddu. Yr amser hynny, doedd yna ddim cyfundrefn broffesiynol  ar gael i gadw rheolaeth a threfn ; hwyrach, mai  creu ofn oedd yr unig fodd y gellid ei ddefnyddio i gyfyngu drwgweithredu.  Yn ddiddorol, roedd y baledwyr yn ychwanegu at ofn y gyfraith drwy rybuddio pawb beunydd fod yna gosb arall yn wynebu camweithredwyr, hyd yn oed y rhai hynny oedd heb eu dal. Mae deg pennill olaf  baled Philyb Thomas yn ymwneud â'r gosb honno sydd yn wynebu pawb pan ddaw y dirgel lanas i oleni  yn nydd y farn :

Fe ddichon pob darllenydd gofio,

Fod gwaed Abel etto’n crio,

Er dechreu’r byd mae Duw’n cyhoeddi

Pob dirgel lanas i oleuni.


Dyma rybudd i bob Cristion

Wach’lyd trachwant a byw’n union

Rhag cael eu barnu i boen tragwyddol

Am eu drwg i’r ffwrn uffernol.

Os am weld baled Philyb Thomas fel cyfanwaith, cliciwch yma

1.  Evan Jones, Cymdogaeth Soar-y mynydd, Gwasg Christopher Davies, Abertawe, 1979

2.  Philyb Thomas, Cân yn dangos marwolaeth Humphry Jenkins, Argraffwyd dros EfanWiliam gan I.Ross, 1772

3.  Glyn Parry, Launched to Eternity, The National Library of Wales, 2001

Mae hanes mwrdwr

Humphry (Wmffre) Jenkins

 wedi ei roi ar gof a chadw mewn cân neu faled gan

Philyb Thomas

Mwrdwr

Humphry (neu Wmffre) Jenkins

Nantstalwen

(1699)

www.hanesybont.co.uk

Mae'r rhai hynny sydd wedi darllen hanes Rhys Williams ar y safwe yma www.hanesybont.co.uk/rw/rhyswilliams1.htm] wedi dod ar draws John Jones o Gilpyll ym mhlwyf Nancwnlle ; roedd yn ffermio yn Nantstalwen am gyfnod yn y  bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd i Gilpyll tua 1875 ac yno y bu yn ddyn cymdeithasol amlwg – yn Y.H. a Chynghorydd Sir. Ar ôl symud, trosglwyddodd fferm Nantstalwen i’w ferch a’i gwr, J.D. Edwards. Gwnaeth Mr Edwards hefyd, yn ei dro, ildio'r lle i’w fab a bu ef yn byw yno hyd ddechrau chwedegau y  ganrif ddiwethaf. Mae'n ddiddorol nodi fod Nantstalwen wedi bod yn gartref i'r teulu yma am genedlaethau, yn ddi-dor o'r ail ganrif ar bymtheg.


Yn Nantstalwen y cafodd John Jones ei eni a’i fagu. Ei dad oedd Thomas Jones ac roedd ef yn un o deulu adnabyddus iawn yn ardaloedd y mynydd – teulu “Cochiaid Cwm Tywi”. Mam y teulu hwn oedd Gwen Nant-yr-hwch ac yn ôl Evan Evans [1] :